Skip to content

Tir Comin

Dolenni perthnasol

Dylai Cymdeithasau Pori sy’n bwriadu cofrestru ar gyfer contract elfen Glastir – Tir Comin 2014 gofio llenwi eu cais a’i ddanfon yn ôl erbyn 29 Awst 2014.
Gwybodaeth am dir comin yng Nghymru a beth i’w wneud os ydych yn bwriadu gweithio arno neu gymryd rhan ohono.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.

Mae llawer yn credu bod yr enw tir comin yn dod o'r syniad bob 'pawb' yn berchen arno. Mae hynny'n anghywir.

Fel arfer, un person sy'n berchen ar dir comin, sef y perchennog tir.  Fe’i gelwir yn “dir comin” gan bod y perchennog tir, yn hanesyddol, wedi caniatáu i bobl eraill benodol ei ddefnyddio.  

Beth ydy 'hawliau comin'

Mae’r rhan fwyaf o’r tir comin yn dyddio’n ôl i’r canol oesoedd pan oedd arglwydd y maenor yn berchen ar y tir.  Byddai’r arglwydd yn rhoi hawliau i’w denantiaid ddefnyddio tir pori neu dir gwastraff mewn ffyrdd penodol.  Gelwir yr hawl hwn i ddefnyddio “tir comin” yn “hawliau comin”, a gelwid y bobl sydd â’r hawliau hyn yn “gominwyr”.  Roedd yr hawliau wedi’u hatodi i’r rhan o’r tir fferm neu’r eiddo penodol oedd yn rhan o’r maenor.  Ar dir comin, gallai cominwyr gynnal gweithgareddau penodol e.e. pori da byw, casglu coed, mawn neu fes, neu bysgota.

Mae’r arferiad wedi parhau hyd heddiw, er bod y maenor o bosib wedi hen ddiflannu. Heddiw, mae’r rhan fwyaf o’r hawliau’n parhau wedi’u hatodi i ffermydd neu eiddo.  Caiff y perchnogion neu’r tenantiaid presennol ddefnyddio’r hawliau comin  sy’n perthyn i’r eiddo hwnnw.

Tir Comin yng Nghymru

Mae oddeutu 8.4% o dir Cymru yn dir comin cofrestredig, gan wneud cyfanswm o oddeutu 175,000 hectar.  Mae llawer o’r tir comin yn ffinio â’i gilydd, gan greu ardaloedd mawr o dir comin ledled Cymru.  Mae’n bosib bod gan y tiroedd comin bychain hyn berchnogion gwahanol a deiliaid hawliau gwahanol.  Mae llawer o’r tiroedd comin hyn yn bwysig ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru, gan ddarparu tir pori ar gyfer defaid a gwartheg.  Hefyd, mae llawer o’r tiroedd comin yn bwysig oherwydd eu hatyniadau hamdden ac amgylcheddol.  Mae rhai ohonynt mewn Parciau Cenedlaethol neu mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berchen arnynt.  

Gall tir comin ddarparu cynefin bwysig ar gyfer adar, bywyd gwyllt a phlanhigion sy’n cael eu gwarchod.