Skip to content

Awdurdodau Cofrestru Tir Comin

Mae Awdurdodau Cofrestru Tir Comin yn gyfrifol am gadw Cofrestrau Tiroedd Comin a Meysydd Pentrefi.

Roedd Deddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965 yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyngor sir sefydlu Cofrestr o Dir Comin.  Roedd hefyd yn ofynnol iddynt weinyddu’r broses o gofrestru’r tir comin a meysydd trefi a phentrefi a oedd yn ofynnol o dan Ddeddf 1965.

Mae pob un o’r 22 Awdurdod Unedol presennol yng Nghymru yn Awdurdod Cofrestru Tir Comin, ac maent yn cadw’r Cofrestrau a sefydlwyd o dan Ddeddf 1965.  Maent yn cynnig cymorth a chyngor ar faterion sy’n gysylltiedig â thiroedd comin, a hwy yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y rhan fwyaf o ymholiadau ynghylch tir comin.

Eu prif swyddogaeth heddiw yw:

  • cadw’r cofrestrau i’w harchwilio gan y cyhoedd;
  • cynnal chwiliadau o’r cofrestrau;
  • ymdrin â cheisiadau i newid y cofrestrau;
  •  cofrestru meysydd tref a phentref newydd; a
  • dileu tir comin o’r cofrestrau.

Dolenni allanol

Awdurdodau : Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Deddf Cofrestru Tir Comin 1965
Deddf Tir Comin 2006

Link