Skip to content

Deddf Tir Comin 2006

Dolenni perthnasol

Gwybodaeth am dir comin yng Nghymru a beth i’w wneud os ydych yn bwriadu gweithio arno neu gymryd rhan ohono.

Mae Deddf Tir Comin 2006 yn caniatáu diweddaru’r darpariaethau a bennwyd yn Neddf Tir Comin 1965.

Mae Deddf Tir Comin 2006 yn cynnwys darpariaethau newydd gwell i ddiweddaru a chynnal cofrestrau tir comin ledled Cymru a Lloegr.   Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am weithredu’r Ddeddf yng Nghymru.  Er nad yw’r Ddeddf yn cynnwys unrhyw ddarpariaethau ‘Cymru yn unig’, mae’n caniatáu i Weinidogion Cymru weithredu fel yr ‘awdurdod cenedlaethol priodol’ yng Nghymru.  

Nod y Ddeddf yw:

  • diogelu tir comin rhag cael ei ddatblygu;
  • rheoli tir comin yn fwy cynaliadwy;
  • gwarchod y tir comin yn well rhag esgeulustod a chamdriniaeth; a
  • moderneiddio’r broses o gofrestru tir comin a meysydd i sicrhau y caiff pob un ohonynt eu gwarchodd yn yr un ffordd.  

Mae’r Ddeddf yn diweddaru’r deddfau cymhleth a hynafol sy’n rheoli’r tir comin sy’n bodoli ar hyn o bryd, ac mae wedi’i rhannu’n 5 rhan:    

Rhan 1 - Cofrestru

Mae Rhan 1 yn caniatáu i awdurdodau cofrestru tir comin yng Nghymru barhau i gadw cofrestrau swyddogol o dir comin, meysydd trefi neu bentrefi.  Mae hefyd yn darparu ar gyfer:

  • diwygio’r cofrestrau gan ddefnyddio gwybodaeth newydd fwy diweddar;
  • cywiro camgymeriadau yn y cofrestri; a
  • sefydlu cofrestri electronig.

Rhan 2 – Rheoli

Mae Rhan 2 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud gorchmynion sy’n galluogi sefydlu “cynghorau tir comin”.  Gallai cynghorau tir comin reoleiddio a rheoli:

  • gweithgareddau amaethyddol y tir comin y maent wedi’u penodi ar eu cyfer;
  • llystyfiant y tir comin hwnnw; a
  • hawliau comin ar y tir comin hwnnw.

Rhan 3 - Gwaith

Mae Rhan 3 yn gwahardd gwaith dan gyfyngiadau ar fathau penodol o dir comin heb gydsyniad Gweinidogion  Cymru.  Mae hefyd yn amlinellu sut y gellid cael y cydsyniad a bydd yn disodli adran 194 Deddf Cyfraith Eiddo 1925.  

Rhan 4 – Amrywiol

Mae Rhan 4 yn gwneud amrywiol ddarpariaethau fel:  

  • darparu pwerau i awdurdodau lleol dros diroedd sydd heb eu hawlio,
  • darparu bod Gweinidogion Cymru yn delio â gweithgareddau amaethyddol sydd heb eu hawdurdodi,
  • dileu deddfwriaeth hynafol benodol.

Rhan 5 – Ychwanegol a Chyffredinol

Mae rhan 5 yn cynnwys pwerau i:

  • newid sut y mae Deddfau eraill yn berthnasol i dir comin a meysydd trefi a phentrefi,
  • newid sut y mae Deddfau lleol ac eraill sy’n rhoi swyddogaethau i Weinidogion Cymru yn berthnasol i dir comin a meysydd.  

Dolenni allanol

Deddf Cofrestru Tir Comin 1965
Deddf Tir Comin 2006

Link