Skip to content

Polisi Amaethyddol Cyffredin

Dolenni perthnasol

Mae Cynllun Datblygu Gwledig Cymru yn chwarae rôl fawr o ran cynnal hyfywedd ffermio yng Nghymru ac mae’n cefnogi cydlyniant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol cefn gwlad Cymru.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
gwartheg mewn cae

Mae'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) yn annog ffermwyr i ymateb i anghenion y farchnad ac i anghenion y defnyddwyr.

Diwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC)

Ym mis Tachwedd 2010, cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd gynigion polisi lefel uchel ar gyfer PAC 2014 - 2020. Wedi hynny, cynhaliwyd ymgynghoriad a chyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad sefyllfa yn rhoi barn gynhwysfawr ar y cynigion. Bwriad Comisiwn yr UE yw gwneud y newidiadau nesaf i’r PAC yn 2014. Er hynny, efallai y bydd oedi gan fod angen gwneud penderfyniad ar y cyd (rhwng y Cyngor a Senedd Ewrop) yn dilyn Cytuniad Lisbon.  

Mae dyfodol y PAC yn bwysig i’r Gymru wledig gan roi dros £350 miliwn bob blwyddyn i fusnesau Cymru, cadw busnesau i fynd a sicrhau gwaith i filoedd o bobl. Mae’r arian hefyd o fudd i’r gymuned a’r economi ehangach.

Mae’r rheoliadau drafft terfynol wedi cael eu cyhoeddi a nawr mewn cyfnod o craffu a thrafod dwys. Er na allwn ddod i benderfyniad terfynol ar y pecyn nes bod y rheoliadau a’r gyllideb sydd ar gael i Lywodraeth Cymru wedi’i derfynu, mae’n rhoi sail well ar gyfer trafod y fargen orau bosibl i ffermwyr Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’n rhanddeiliaid i werthuso effeithiau’r cynigion yng Nghymru.

Diwygio’r Polisi Amaethyddiaeth Cyffredin - wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (dolen allanol)