PAC
Y Polisi Amaethyddol Cyffredin ar hyn o bryd sydd i gyfrif am tua 50% o gyllideb yr UE ac i raddau helaeth dyma sy’n penderfynu ar bolisi amaethyddol yr holl Aelod-wladwriaethau. Penderfynir ar y PAC trwy drafod ar lefel Aelod-wladwriaethau ac mae’n cynnwys
- Fframwaith o gefnogaeth i ffermio trwy daliadau uniongyrchol i gynhyrchwyr ac yn anuniongyrchol trwy fesurau cefnogi’r farchnad. Er enghraifft, ddiwedd y 1990au yng Nghymru amcangyfrifir fod y fferm nodweddiadol yn elwa ar gymorthdaliadau uniongyrchol ac anuniongyrchol oedd gwerth tua £37,000
- Penderfyniadau ar gyfyngiadau mewnforio i’r UE ee gwartheg eidion yr UD wedi’u trin â hormonau
- Rheoliadau ar labelu bwyd
- Materion yn ymwneud ag iechyd anifeiliaid, e.e. defnyddio gwrthfiotig mewn porthiant anifeiliaid
- Materion yn ymwneud ag iechyd planhigion, gan gynnwys organebau wedi’u haddasu’n enetig (GMOs)
- Cyfyngiadau ar gymorth y wladwriaeth (cymorth gan Aelod-wladwriaethau neu lywodraethau rhanbarthol) ar gyfer amaethyddiaeth a phrosesu bwyd
Trawsgydymffurfio
Mae hyn yn golygu y bydd taliadau cymhorthdal ffermwyr o 2005 yn dibynnu ar a ydynt yn cydymffurfio neu beidio â safonau UE cyfredol mewn perthynas ag amddiffyn yr amgylchedd, diogelwch bwyd a iechyd a lles anifeiliaid. Mae dwy elfen yn perthyn i Drawsgydymffurfio. Y ddwy elfen yw
- Gofynion Rheoli Statudol (SMRs)
- Cyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol Da (GAEC)
Datgysylltu
Mae hyn yn golygu torri’r cysylltiad rhwng cymorthdaliadau ffermydd â chynhyrchu. Nid fydd ffermwyr bellach yn gorfod cadw anifail arbennig neu dyfu cnwd arbennig i sicrhau taliad cymhorthdal uniongyrchol. Gweler hefyd Taliad Sengl i Ffermwr.
Taliadau uniongyrchol
Mae hyn yn cyfeirio at daliadau a dderbyniwyd gan ffermwyr wedi’u hawlio dan y cynlluniau premiwm yn cynnwys Premiwm Blynyddol Defaid, Premiwm Arbennig Eidion, Premiwm Buchod Sugno, Premiwm Lladd, Taliad Dad-ddwysáu neu’r Cynllun Taliad Arwynebedd Tir Âr.
Hawl
Dan Gynllun y Taliad Sengl mae hwn yn cyfeirio at nifer yr hectarau a gwerth pob hectar y mae gan ffermwr hawl iddynt, wedi’u mynegi fel x hectar yn ôl £ y fl. yr hectar. Er enghraifft, gallai hawl y ffermwr fod yn 50 hectar, a gallai gael tâl o £100 yr hectar amdanynt.
Cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da (GAEC)
Mae’n rhaid i’r ffermwr gadw tir mewn cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da er mwyn derbyn taliad trwy Gynllun y Taliad Sengl. Byddwn yn ymgynghori ar sut i ddiffinio a gweithredu hwn yng Nghymru yn y dyfodol agos.
Model hanesyddol Cynllun y Taliad Sengl
Mae hyn yn cyfeirio at y dull gweithredu ar gyfer y Cynllun Taliad Sengl yn seiliedig ar gyfranogiad yng nghynlluniau taliad sengl y PAC ym mlynyddoedd cyfeirio 2000, 2001 a 2002. Defnyddiwyd cyfanswm y taliadau a wnaed o dan y Premiwm Blynyddol Defaid, y Premiwm Arbennig Eidion, y Premiwm Buchod Sugno, y Premiwm Lladd, y Premiwm Dad-ddwysáu Gwartheg neu'r Cynllun Arwynebedd Tir Âr i bennu'r gyllideb ar gyfer Cynllun y Taliad Sengl. Cynyddwyd y gyllideb yn 2005 i gynnwys iawndal i'r sector llaeth.
Modiwleiddio
Mae hyn yn golygu brigdorri taliadau cymhorthdal uniongyrchol, gan gynnwys Cynllun y Taliad Sengl. Mae’r cyllid a godir yn cael ei ddefnyddio i ariannu mesurau datblygu gwledig. Mae dau fath o fodiwleiddio
- Modiwleiddio gorfodol, ledled yr UE.
- Modiwleiddio gwirfoddol, cenedlaethol.
Gronfa Genedlaethol
Y Gronfa Genedlaethol yw hyd at 3% o gyfanswm yr arian sydd ar gael yng Nghymru ar gyfer hawliau'r SPS yn 2005. Roedd ffermwyr yn cael gwneud cais i Gronfa Genedlaethol 2005 am hawliau o dan nifer o gategorïau gwahanol. Roedd yna gategorïau ar gyfer ffermwyr oedd heb hawliau hanesyddol neu a oedd wedi datblygu’u busnesau ers y cyfnod cyfeirio (2000 i 2002).
Piler 1 a Philer 2
Y Polisi Amaethyddol Cyffredin sydd i gyfrif am tua 50% o gyllideb yr UE ac mae’n cynnwys amrywiaeth eang o wariant. Mae wedi’i rannu’n ddau, Piler 1 a Philer 2 yw’r enw ar y ddau.
Piler 1
Yn wreiddiol, rhoddwyd cefnogaeth anuniongyrchol i’r diwydiant amaethyddol trwy fesurau ar gyfer ymyrryd yn y farchnad – mesurau fel ad-daliadau ar allforion neu brynu cynnyrch i gynnal prisiau o fewn y Farchnad Gyffredin. Ers diwygio’r PAC ganol y 1990au gwelwyd newid tuag at gefnogaeth uniongyrchol ar ffurf taliadau premiwm, (hy taliadau yn gysylltiedig â chynhyrchu). Bydd Cynllun y Taliad Sengl yn dod dan Biler 1 gan gymryd lle’r cynlluniau taliad unigol.
Piler 2
Cyfeirir at Wariant dan y Rheoliad Datblygu Gwledig fel Piler 2, ail ran y PAC ac un sy’n tyfu. Yn nhermau cyllideb mae hwn yn llawer llai na’r cyntaf, er ei fod ar gynnydd. Mae mesurau Piler 2 wedi’u hanelu at gefnogi cymunedau gwledig i ddatblygu ac arallgyfeirio. Mae ystod y mesurau yn cynnwys
- Amaeth-Amgylchedd (Tir Gofal) , addasu ffermydd, coedwigaeth, prosesu a marchnata cynnyrch amaethyddol, hyfforddi a datblygu a chefnogi ardaloedd llai ffafriol (Tir Mynydd).
- Er mwyn sicrhau cyllid Ewropeaidd i’r rhain (a mesurau Piler 2 eraill) gofynnir i Aelod-wladwriaethau (neu ranbarthau ynddynt) baratoi Cynllun Datblygu Gwledig, a rhaid i’r Comisiwn ei gymeradwyo. Mae Cynllun Datblygu Gwledig Cymru a gymeradwywyd gan y Comisiwn Ewropeaidd yn 2000 yn amlinellu mesurau Piler 2 strategaeth Cynulliad Cymru ar gyfer datblygu gwledig.
Cyfnod Cyfeirio
Mae hwn yn cyfeirio at gyfnod 2000, 2001 a 2002. Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i weld a oes hawl gan ffermwr i gael Taliad Sengl i Ffermwr. Bydd trefniadau arbennig ar gael i’r rhai a gafodd feddiant o dir ar ôl y cyfnod hwn.
Ffurflen y Taliad Sengl (SAF)
Dyma'r ffurflen ar gyfer hawlio'r Taliad Sengl. Llywodraeth Cynulliad Cymru sy'n dosbarthu'r ffurflenni i ddeiliaid hawl. Rhaid anfon ffurflenni wedi'u cwblhau at y swyddfa leol Llywodraeth Cynulliad Cymru erbyn 15 Mai fan bellaf ym mlwyddyn weithredu'r Cynllun. Yna gellir gwneud taliad unrhyw bryd rhwng 1 Rhagfyr a 30 Mehefin yn y flwyddyn ganlynol.
Cynllun y Taliad Sengl (SPS)
Dyma gynllun newydd a fydd, o fis Ionawr 2005 yn cymryd lle’r rhan fwyaf o daliadau cynllun unigol dan y drefn PAC bresennol. Ni fydd y taliad sengl yn gysylltiedig â chynhyrchu.. Ond mae’n amodol: rhaid i ffermwyr gadw’r tir mewn "cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da" a bodloni gofynion trawsgydymffurfio. Hynny yw, rhaid i hawlwyr barhau i ymroi i ffermio er mwyn cael taliad. Y cyfnod talu blynyddol yw i 1 Rhagfyr hyd at 30 Mehefin y flwyddyn ganlynol.
Gofynion Rheoli Statudol (SMRs)
Mae'r rhain, gan amlaf, yn rhwymedigaethau Ewropeaidd sy'n bodoli'n barod ac yn ymdrin a'r amgylchedd, iechyd y cyhoedd, iechyd planhigion, iechyd anifeiliaid a safonau lles.
- 9 Gofyniad Rheoli Statudol (SMRs) yn ymwneud a gwarchod planhigion ac anifeiliad, diogelu ansawdd dwr ac adnabod anifeiliaid unigol
- Daw 7 Gofyniad Rheoli Statudol ychwanegol i rym. Mae'r rhain yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd, iechyd anifeiliaid ac iechyd planhigion
- Daw 3 Gofyniad Rheoli Statudol ychwanegol i rym. Maent yn ymwneud a lles anifeiliaid