Skip to content

Hwyluso’r Drefn

Dolenni perthnasol

Bydd ffermwyr a Llywodraeth Cymru’n dod at ei gilydd heddiw i lunio cynllun ar gyfer diwydiant amaethyddol iach a llewyrchus.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.



Mae Hwyluso'r Drefn yn golygu darparu fframwaith rheoleiddio priodol i'n cwsmeriaid, sef ffermwyr Cymru.

Ym mis Awst 2011, amlinellodd Alun Davies, y Gweinidog Amaeth, ei gynlluniau i leihau’r baich biwrocratiaeth ar ffermwyr er mwyn iddynt allu canolbwyntio ar ffermio a chynyddu eu helw.

Penodwyd cynghorydd annibynnol (Gareth Williams) i ystyried a yw'r fframwaith rheoleiddio sy’n berthnasol i ffermwyr yng Nghymru yn briodol. Cyflwynodd adroddiad o argymhellion i’r Gweinidogion ym mis Rhagfyr 2011.

Roedd rhaglen Hwyluso’r Drefn yn datblygu gwaith yr Adolygiad o Fiwrocratiaeth a gychwynnwyd yn wreiddiol gan Elin Jones, y cyn-Weinidog Amaethyddiaeth, ac yn ystyried adroddiad Macdonald yn Lloegr. Roedd adroddiad Macdonald yn argymell newidiadau i'r ddeddfwriaeth bresennol a allai effeithio ar Gymru.

Gallwch anfon eich syniadau atom ni sef y tîm Hwyluso’r Drefn drwy e-bostio:  hwylusordrefn@cymru.gsi.gov.uk.

Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad diweddaru hwyluso’r drefn – Gweithio gyda’n gilydd i hybu twf busnesau fferm yng Nghymru

21/05/13
Mae'r adroddiad yn dangos y datblygiadau hyd at Mawrth 2013 gyda'r 74 o argymhellion.
 

Hwyluso’r Drefn - Gweithio Gyda’n Gilydd i Hybu Twf Busnesau Fferm yng Nghymru’

12/03/13
Nod yr adroddiad hwn yw egluro beth a gyflawnwyd o ran rheoleiddio gwell hyd yn hyn.
 

Hwyluso'r Drefn - Hynt yr Argymhellion hyd yma

15/07/12
Gweithredir yr argymelliadau fel y bwriad a bydd y cerrig milltir yn cael eu cyflawni.
 

Ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad Hwylusor Drefn

07/02/12
Ar 31 Ionawr 2012, cyhoeddwyd yr adroddiad 'Hwyluso'r Drefn', sydd yn argymell ffordd o weithio a fydd yn symlach ac yn well i reoleiddwyr a ffermwyr Cymru.
 

Hwyluso’r Drefn - Adroddiad o argymhellion i Lywodraeth Cymru ar well rheoleiddio ym maes ffermio

31/01/12
Ym mis Awst 2011, gofynnodd y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth (BMTG), Mrs Edwina Hart, a'r Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Mr Alun Davies, am adroddiad ar y baich rheoleiddio ar ffermwyr a rheolwyr tir yng Nghymru.