Skip to content

Iechyd a diogelwch ar y fferm

Dolenni perthnasol

Mae'r daflen yn esbonio ichi beth i'w ddisgwyl pan fydd arolygydd iechyd a diogelwch yn galw yn eich gweithle.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaeth, gydag Ed Bailey, Llywydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) Cymru.

Gwybodaeth am iechyd a diogelwch ar y fferm yng Nghymru gan gynnwys Siartr Cymru ar gyfer Iechyd a Diogelwch ar y fferm, pam mae mor bwysig â'r sefydliadau allweddol sydd yn ei gefnogi.




Mae'n rhaid i Iechyd a Diogelwch ar y fferm ddod yn fater o flaenoriaeth ar gyfer y diwydiant amaeth yng Nghymru.
Cafodd Siarter Cymru ar gyfer Iechyd a Diogelwch ar y fferm ei lansio gan y Ddirprwy Weinidog dros Amaethyddiaeth ar 25 Ionawr. Mae hon yn fenter ar y cyd gyda:

  • CLA Cymru;
  • Comisiwn Coedwigaeth Cymru;
  • Y Rhwydwaith Argyfwng Ffermio;
  • Undeb Amaethwyr Cymru (FUW);
  • Hybu Cig Cymru;
  • Lantra;
  • Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) Cymru;
  • NFU Mutual;
  • Sefydliad Lles Amaethyddol Brenhinol (RABI) Cymru;
  • Llywodraeth Cymru, a;
  • Clybiau Ffermwyr Ifanc (CFfI) Cymru.

Gall y siarter i'w weld isod.

Wrth lofnodi'r Siarter, mae'r sefydliadau wedi cytuno i gydweithio er mwyn:

  • Annog ffermwyr i aros a meddwl cyn cymryd risgiau diangen, a;
  • Hyrwyddo pwysigrwydd iechyd a diogelwch da ar y fferm.

Mae rhaid i Iechyd a Diogelwch fod yn bryder mawr i ffermwyr. Mae llawer o'r marwolaethau a'r anafiadau difrifol sy'n digwydd bob blwyddyn ar ein ffermydd yn drasiedi bersonol i'r teulu a ffrindiau agos, a hefyd yn cael effaith aruthrol ar ddyfodol y fferm ei hun.

Yn fuan ar ôl cael ei benodi'n Llywydd NFU Cymru, trefnodd Ed Bailey 'uwchgynhadledd' o bartïon â diddordeb yng Nghymru i drafod Iechyd a Diogelwch ar y fferm. Ei nod oedd i sefydliadau gydweithio i gefnogi'r diwydiant ffermio er mwyn ostwng y nifer uchel o farwolaethau ac anafiadau ar ffermydd yng Nghymru bob blwyddyn.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae rhagor o drafodaethau wedi'u cynnal i drafod sut i wella diogelwch ar y fferm.  Ystyriwyd hefyd yr heriau unigryw sy'n wynebu ffermwyr o ddydd i ddydd.

Y canlyniad a ddymunir, yn syml, yw newid mewn agwedd ac ymddygiad o fewn y diwydiant ffermio yng Nghymru. Ffordd newydd o ymdrin ag Iechyd a Diogelwch sy'n arwain at ostyngiad sylweddol yn nifer o farwolaethau ac anafiadau difrifol sy'n digwydd bob blwyddyn ar ffermydd Cymru.

Mae llawer o'r cyrff sydd yn cymryd rhan wedi bod yn helpu ffermwyr â Iechyd a Diogelwch dros nifer o flynyddoedd. Am y tro cyntaf, mae'r fenter hon yn dod ynghyd sefydliadau allweddol i weithio mewn ffordd fwy cysylltiedig ag, yn y pen draw, fod yn fwy llwyddiannus.

Bydd fabwysiadu dulliau mwy cysylltiedig, gan ganolbwyntio ar faterion penodol dros gyfnodau penodol i ddarparu negeseuon cyson yn cael ei ystyried i fod yn ffordd llawer mwy effeithiol o gyrraedd y canlyniad a ddymunir; y canlyniad hwnnw fod, llawer llai o farwolaethau ac anafiadau ar ffermydd yng Nghymru.

Atal cwympo

31/07/12
Ellir un gangymeriad fach wrth weithio mewn uchder heb amddiffyniad ganlynu mewn marwolaeth neu anafiad difrifol, gwelwch sut i aros yn ddiogel.
 

Diolgelwch periannau

31/07/12
Me risg gyda defnyddio peiriannau, gwlewch sut i aros yn ddiogel.
 

Siarter Cymru ar gyfer Iechyd a Diogelwch ar y Fferm

15/03/12
Mae'r siarter yma yn amlinell menter ar y cyd i sicrhau bod ffermwyr yn dod adre’n ddiogel.