Skip to content

Chwyn Niweidiol

Dolenni perthnasol

Mae’r Cod hwn yn darparu canllawiau ynghylch pa gamau y dylid eu cymryd a phryd y dylid eu cymryd er mwyn rheoli ymlediad llysiau’r gingroen.
Ble rydym ni? Sut gallwch gysylltu a'ch swyddfa lleol? Cewch wybod yma.
blodau llysiau'r gingroen
Mae Deddf Chwyn 1959 yn ymdrin â phum math o chwyn peryglus. Allech ddod o hyd i fwy amdanant ar y tudalen yma.

  • Llysiau'r gingroen 
  • Tafol Crych 
  • Dail Tafol 
  • Marchysgall 
  • Ysgall y maes

Y sawl sydd â meddiant ar y tir lle mae'r chwyn yn tyfu sy'n gyfrifol am reoli'r chwyn hwnnw. Mae'n bwysig iawn bod yn effro i unrhyw broblemau gyda'r chwyn ac ymateb yn gyflym iddynt.

Cewch fwy o wybodaeth am chwyn niweidiol yn y daflen Rheoli Chwyn Niweidiol oddi wrth y Gangen Biotechnoleg ac Iechyd Planhigion ar 0300 062 2306 neu drwy ebostio PlantHealthandBiotech@Wales.gsi.gov.uk

Os oes gennych gwynion penodol am lysiau'r gingroen, cysylltwch â Swyddfeydd Rhanbarthol Llywodraeth Cymru.

Cysylltiadau  

Arolygiaeth Wledig Cymru
Penrallt
Caernarfon
LL55 1EP
Ffôn (01286) 674144

Arolygiaeth Wledig Cymru
Adeiladau’r Llywodraeth
Heol Picton
Caerfyrddin
SA31 3BT
Ffôn (01267) 225300

Arolygiaeth Wledig Cymru
Adeiladau’r Llywodraeth
Spa Road East
Llandrindod
LD1 5HA
Ffôn (01597) 823777

Gwefannau defnyddiol allanol eraill (yn Saesneg yn unig)