Skip to content

Plâu

Chwilen Hirgorn Sitrws (Anoplophora chinensis)

Pests are living organisms such as rodents, insects, fungi and plants that harm our food, our health or our environment.

Mae’r Chwilen Hirgorn Sitrws (Anoplophora chinensis) yn bla goresgynnol difrifol sy’n tarddu o Tsieina. Mae’n cael ei restru mewn deddfwriaeth am Iechyd Planhigion ledled y DU. Mae angen cymryd camau i reoli’r pla ac i’w atal rhag lledaenu.

Daethpwyd o hyd i’r pla yn ddiweddar:

  • mewn gardd breifat yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr; ac,
  • mewn meithrinfa yn Ynysoedd y Sianel ar goed masarn (Acer palmatum) a gafodd eu mewnforio o Tsieina drwy’r Iseldiroedd.

Gan fod y pla hwn yn un mor ddifrifol, mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a Llywodraeth yr Alban yn gofyn i’r cyhoedd gadw llygad am y chwilen hon yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Os ydych yn dod ar draws un o’r chwilod hyn, dylech ei:

  • chadw ar wahân (mewn pot gwydr wedi’i selio fyddai orau); a,
  • chysylltu â’r Arolygydd Iechyd Planhigion a Hadau lleol.

Dylech gysylltu â’r Arolygydd hefyd os ydych yn gweld unrhyw arwyddion eraill o’r pla hwn.

Ffôn: 01745 585227 (Yr Arolygydd Iechyd Planhigion a Hadau ar gyfer y Gogledd)
Ffôn: 01432 851751 (Yr Arolygydd Iechyd Planhigion a Hadau ar gyfer De Powys a Gwent)
Ffôn: 01792 313047 (Yr Arolygydd Iechyd Planhigion a Hadau ar gyfer gweddill y De)

Chwilen Hirgorn Sitrws (Anoplophora chinensis) (dolen allanol - Saesneg yn unig)