Skip to content

Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein

Dolenni perthnasol

Mae Hwyluso'r Drefn yn golygu darparu fframwaith rheoleiddio priodol i'n cwsmeriaid, sef ffermwyr Cymru.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
logo Taliadau Gwledig Cymru ar-lein

Mae Rhaglen RPW Ar-lein wrthi’n datblygu system fydd yn symleiddio ac yn cyflymu’r broses ymgeisio am gynlluniau a reolir gan Taliadau Gwledig Cymru.

Oeddech chi’n gwybod y bydd SAF 2014 ar gael ar-lein?

Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar y newidiadau sydd angen eu gwneud.  Mae hyn yn cynnwys gofyn i ffermwyr, undebau ffermwyr ac asiantwyr am eu barn am y system newydd a sut y dylid ei chyflwyno.

Ar hyn o bryd, mae nifer o ffermwyr, undebau ffermwyr ac asiantwyr wrthi’n treialu’r system.

Ers i’r gwaith ddechrau, mae adroddiad Hwyluso’r Drefn wedi cael ei gyhoeddi, adroddiad sy’n cefnogi cynigion Llywodraeth Chymru ar gyfer y rhaglen ar-lein.  I gael rhagor o wybodaeth am yr adroddiad, ewch i’n tudalennau ar Hwyluso’r Drefn (mae’r ddolen ar ochr dde’r sgrin).

Pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael am y rhaglen, byddwn yn ei chyhoeddi yma.

Cliciwch yma am fynediad gwasanaeth Ar-lein Taliadau Gwledig Cymru

Cysylltu â ni

Os oes angen help arnoch i ddefnyddio gwasanaeth RPW Ar-lein, cysylltwch â ni:

  • Llinell gymorth: 0300 062 5004

Cyfeiriad:

Taliadau Gwledig Cymru / Rural Payments Wales
Blwch Postio 1081
Tŷ Brunel
2 Heol Fitzalan
Caerdydd
CF11 1SU

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am eich cynllun, cysylltwch â’ch Swyddfa Ranbarthol.