Skip to content

Echelau 3 a 4

Dolenni perthnasol

Manylion proseictiau sydd wedi ei cymeradwyo o dan echel 3 a 4 Rheoli'r Cynllun Datblygu Gwledig.
Manylion proseictiau sydd wedi ei cymeradwyo o dan echel 3 a 4 Rheoli'r Cynllun Datblygu Gwledig.
Restr o brosiectau a ariannwyd i hybu Gweithredu Cydweithredol ar y cyd rhwng Grwpiau Gweithredu Lleol yng Nghymru a phartneriaid o fewn y Deyrnas Unedig neu Aelodau eraill yr Undeb Ewropeaidd.
Mae'n disodli grantiau'r Offeryn Ariannol ar gyfer Cyfarwyddo Pysgodfeydd.
stryd yn Solfach, Sir Benfro

Mae Echelau 3 a 4 Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 yn ymwneud ag ansawdd bywyd mewn ardaloedd gwledig, a'r rhaglen 'LEADER' i ddatblygu ardaloedd gwledig lleol.

Mae prosiectau'n cael eu gweithredu drwy weithgareddau sy’n gysylltiedig ag Echelau 3 a 4 Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013.

Echel 3

Nod Echel 3 yw gwella ansawdd bywyd mewn ardaloedd gwledig a hybu arallgyfeirio o fewn yr economi wledig. Mae'n gwneud hyn mewn sawl ffordd wahanol, gan gynnwys helpu i adnewyddu a datblygu pentrefi, hyrwyddo twristiaeth, cefnogi micro-fusnesau a gwella gwasanaethau gwledig sylfaenol. Mae Echel 3 hefyd yn ceisio meithrin treftadaeth wledig, gan roi hyfforddiant a gwybodaeth i bobl sy'n ymwneud yn weithredol ag economïau lleol.

Echel 4

Mae Echel 4 yn defnyddio’r rhaglen 'LEADER' i annog pobl i gymryd rhan yn y gwaith o wella a datblygu eu cymunedau gwledig. Yn benodol, nod Echel 4 yw creu ffyrdd arloesol newydd o ddatblygu cefn gwlad yng Nghymru yn y tymor hir.