Skip to content

Echel 1 - Gallu’r sectorau amaeth a choedwigaeth i gystadlu

Dolenni perthnasol

Bydd gan rhan fwyaf o ganghennau Waitrose yng Nghymru digonedd o gig eidion gorau gwartheg duon Cymru ar gyfer Nadolig.
Gall Cyswllt Ffermio ddarparu cymorth, canllawiau, cyngor a hyfforddiant un-i-un.
Buddsoddwch mewn ymweliad cynghori rhag torri’r rheolau.
Mae'r cynllun yn rhoi cymorth i brosiectau a fydd yn datblygu syniadau newydd yn y sectorau amaeth, bwyd a choedwigaeth.
Mae’r Cynllun Arbedion yn y Gadwyn Gyflenwi yn darparu cymorth ariannol.
defaid

Mae'r cynlluniau canlynol amaethyddiaeth a choedwigaeth yn cael eu dosbarthu o dan Amcan 1 o'r Cynllun Datblygu Gwledig i Gymru 2007 - 2013.

Cyswllt Ffermio

Mae Cyswllt Ffermio, ar y cyd â’i bartneriaid, yn cynnig nawdd, gwybodaeth, arbenigedd, hyfforddiant a chyngor yn benodol i ateb gofynion ffermwyr, a hynny i gyd o dan yr unto. Mae llawer o’r gwasanaethau wedi’u talu amdanynt yn rhannol os nad yn llwyr, gyda’r nod o helpu teuluoedd sy’n ffermio i redeg eu busnesau’n fwy effeithiol ac I ddiogelu dyfodol eu busnesau fferm.

Mae gwybodaeth pellach o’r cynllun ar gael o'r cyswllt ar y dde o'r sgrin.

Gwasanaeth Cynghori Ffermwyr

Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ffermwyr yn helpu busnesau fferm cymwys i ateb y gofynion trawsgydymffurfio ac i gadw at reolau amgylcheddol. Mae’n cael ei noddi’n llawn. Mae’r Cynllun yn gynnig dewis newydd gwell, mwy hyblyg a hwylus o wasanaethau sy’n ‘ychwanegu at werth’.  Rydym am annog ffermwyr i fod yn fentrus, I gynllunio ymlaen llaw a sicrhau bod eu ffermydd yn gwireddu’u potensial.

Mae gwybodaeth pellach o’r cynllun ar gael o'r cyswllt ar y dde o'r sgrin.

Cynllun y Grant Prosesu a Marchnata

Amcan Cynllun y Grant Prosesu a Marchnata yw cefnogi busnesau fferm a choedwigaeth a chynhyrchwyr a phroseswyr bwyd a diod i ychwanegu at werth eu cynnyrch ac i fod yn flaengar ac yn gystadleuol mewn marchnadoedd bydeang.

Cynllun Arbedion yn y Gadwyn Gyflenwi

Mae Cynllun Arbedion yn y Gadwyn Gyflenwi wedi’i greu i helpu busnesau, ffermwyr a choedwigwyr i gael hyd i farchnadoedd newydd a gwahanol. Y prif amcan yw rhoi help ariannol i brosiectau sy’n canolbwyntio ar gadwyni cyflenwi ac i gynlluniau cydweithredu fydd yn datblygu cynhyrchion, prosesau a thechnolegau newydd yn y sectorau amaeth, bwyd a choedwigaeth.