Skip to content

Mynediad at Wasanaethau

Cyflwynwyd:560 diwrnod yn ôl gan Roxanne Treacy

  • Ffynhonnell y cyllid: Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007 i 2013
  • Swm y cyllid: £690,757
  • Dyddiad cwblhau: 30/05/2011
  • Maes: Sir Gaerfyrddin
  • Echel: Echel 3

Crynodeb o'r prosiect

Nod y prosiect oedd cynorthwyo â datblygiad cymunedau gwledig cynaliadwy drwy wella mynediad i wasanaethau.

Mae'r Mynegai Amddifadedd Lluosog yn amlygu bod ardaloedd gwledig yn llawer mwy difreintiedig o ran cael mynediad i wasanaethau a bod effaith fwy difrifol ar grwpiau penodol mewn ardaloedd gwledig e.e. pobl ifanc, pobl hŷn. Roedd y prosiect yn rhoi sylw i'r materion hyn ac yn atal dirywiad y gwasanaethau gwledig ar hyd a lled Sir Gaerfyrddin.

Roedd y prosiect yn cyflogi dau swyddog datblygu i weithio mewn cymunedau gwledig er mwyn nodi bylchau o ran darparu gwasanaethau a datblygu gwasanaethau lle nad oedd rhai i'w cael ar y pryd. Yn benodol, gweithiai'r swyddogion gyda phobl leol a grwpiau cymunedol i:

  • datblygu glasbrint/model derbyniol i sicrhau bod gan gymunedau gwledig fynediad i ystod o wasanaethau a chyfleusterau o fewn cylch penodol neu drwy systemau allgymorth;
  • gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau allweddol i glustnodi'r gwasanaethau presennol a ddarperir yn yr ardal;
  • datblygu a darparu cynlluniau gweithredu sy'n diwallu anghenion cymunedau lleol;
  • rhoi cyngor a chyfarwyddyd i helpu cymunedau lleol i ddatblygu gwasanaethau newydd a/neu well a glustnodir yn yr ardal leol fel eu bod yn fentrau cymunedol cynaliadwy;
  • clustnodi'r potensial sydd gan adeiladau cymunedol presennol o ran darparu gwasanaethau, a thrwy hynny hybu eu cynaliadwyedd;
  • helpu cymunedau lleol i weithio gyda'i gilydd yn agosach er mwyn annog pobl i rannu adnoddau;
  • cyfrannu at gynllunio tymor hir y bartneriaeth cynllunio cymunedol ehangach ar gyfer Sir Gaerfyrddin, o ran darparu gwasanaethau mewn canolbwyntiau gwledig.

Hefyd roedd y prosiect yn canolbwyntio ar ddatblygu a/neu wella gwasanaethau lleol i gefnogi'r amcanion canlynol a nodwyd yn y strategaeth datblygu lleol:

  • gwella mynediad i gyflogaeth a/neu hyfforddiant e.e. ymhlith y gweithgareddau a gefnogwyd roedd: darpariaeth gofal plant mewn ardaloedd gwledig; cyngor am gyflogaeth; gwasanaethau hyfforddiant a chymorth busnes; gwasanaethau adwerthu cymunedol ac ati;
  • gwella mynediad i wasanaethau drwy ddarparu trafnidiaeth gymunedol;
  • gwella mynediad i gyfleusterau hamdden lleol drwy ddatblygu darpariaeth newydd lle mae angen wedi cael ei nodi.

Gweithiodd y prosiect yn agos gyda'r rhwydwaith gwirfoddoli lleol a drefnwyd gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS) er mwyn gofalu bod cynifer o bobl leol â phosibl yn cyfrannu i'r eithaf at y prosiect.

Cyswllt