Skip to content

Gwella Mynediad i Wasanaethau drwy Arloesedd

Cyflwynwyd:536 diwrnod yn ôl gan Roxanne Treacy

  • Ffynhonnell y cyllid: Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007 i 2013
  • Swm y cyllid: £349,012.69
  • Dyddiad cwblhau: 31/12/2013
  • Maes: Sir Gaerfyrddin
  • Echel: Echel 4

Crynodeb o'r prosiect

Rhoddodd y prosiect gymorth i gymunedau wella gwasanaethau sylfaenol sy'n gysylltiedig â'r economi a phobl yng nghefn gwlad drwy ddau Swyddog Datblygu a thrwy Gronfa Fach ar gyfer Grantiau i Drydydd Partïon. Roedd y prosiect wedi'i seilio ar gysyniad o 'ganolbwynt' a ddatblygwyd o dan Echel 3 ac roedd yn ategu'r gweithgaredd hwnnw drwy gael y swyddogion i gynnal archwiliad cychwynnol er mwyn mapio'r cyfleusterau/gwasanaethau presennol, yn ogystal â dadansoddi'r bylchau. Cyfrannodd hyn at y gweithgaredd yr ymgymerwyd ag ef o dan Echel 3 er mwyn nodi beth y gall y canolbwyntiau ei gynnig er mwyn darparu clwstwr o wasanaethau i'r gymuned ehangach.

Datblygodd y prosiect fodel i sicrhau bod gan gymunedau gwledig fynediad i ystod o wasanaethau o fewn cylch penodol neu drwy systemau allgymorth. Roedd y prosiect yn gweithio gyda phartneriaid i gau unrhyw fylchau o ran meithrin galluoedd na ellir eu cyflawni drwy raglenni eraill. Cafodd y profiad o weithio ar draws ffiniau o dan y rhaglen LEADER flaenorol ei ddefnyddio wrth ymdrin â'r camau gweithredu o dan Echel 4.

Roedd y prosiect yn ategu rhaglen o weithgareddau a fydd yn mynd i'r afael â chanfyddiadau'r dadansoddiad o gryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau (SWOT) yn y Strategaeth Datblygu Lleol, sef:

  • Mynediad gwael i wasanaethau a chwtogi ar wasanaethau
  • Anfantais wledig sy'n gudd
  • Anweithgarwch economaidd
  • Darpariaeth gyfyngedig o drafnidiaeth gyhoeddus - Pobl ifanc yn symud i ffwrdd
  • Manteisio i'r eithaf ar yr hyn sydd gan dwristiaeth werdd a diwylliannol i'w chynnig
  • Defnyddio adnoddau pobl
  • Manteisio i'r eithaf ar safon uchel Sir Gaerfyrddin o ran ei hamgylchedd

Roedd y prosiect yn canolbwyntio ar Drafnidiaeth Gymunedol/Trafnidiaeth Wledig; Gofal Plant; TGCh; Gwasanaethau Adwerthu Cymunedol a gwasanaethau eraill.

Dyfarnodd y Prosiect y symiau canlynol mewn grantiau: £

  • Cydweithfa Fwyd Canolfan Deuluol Pencader 13,691.82
  • Cludiant Cymunedol Teifi - ‘Bws Ni’ 18,277.49
  • Menter Bro Dinefwr – Astudiaeth Ddichonoldeb ‘Chwarae Bach’ 5,750.00
  • Menter Bro Dinefwr – ‘Chwarae Bach’ - Cyfnod 2 4,720.00
  • Alpha Business Works – Creche Teithiol 19,001.88
  • Menter Gorllewin Sir Gâr – Cynllun Peilot Wi-Net 20,580.00
  • Menter Gorllewin Sir Gâr - Cynllun Peilot Wi-Net – Dyfarniad Ychwanegol 1 900.00
  • Menter Gorllewin Sir Gâr - Cynllun Peilot Wi-Net – Dyfarniad Ychwanegol 2 3,371.18
  • CYCA Wales Cyf – Cyfryngau Digidol Pobl Ifanc 25,000.00
  • Rhwydwaith Tenantiaid Tywi - Gwefan, mynediad 9,764.25
  • Cymuned Eglwys Gymyn - Gwefan, mynediad 5,582.44
  • YMCA Llanymddyfri - Digilab 14,035.56
  • Menter Bro Dinefwr – Swyddog Cynaliadwyedd 7,050.00
  • Y Pwerdy - The Powerhouse - Datblygu 19,894.38
  • Age Concern – ‘Poverty in Isolation’ 19,719.59
  • Trysordy - Dichonoldeb / Ehangu 8,123.75
  • Trysordy - Dichonoldeb / Ehangu – Dyfarniad Ychwanegol 890.43
  • Wellbeing Regeneration 22,384.89

Cyswllt