Skip to content

Cyfeillion y Comin

Cyflwynwyd:359 diwrnod yn ôl gan Roxanne Treacy

  • Ffynhonnell y cyllid: CDG
  • Swm y cyllid: £16,562.34
  • Dyddiad cwblhau: 31/12/2013
  • Maes: Sir Gaerfyrddin
  • Echel: Echel 4

Crynodeb o'r prosiect

Nod y prosiect arloesol hwn oedd clustnodi a datblygu rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio tir comin Mynydd Llangyndeyrn. Cafodd swyddog prosiect rhan-amser ei gyflogi i glustnodi potensial o ran cydweithio yn yr ardal wledig hon. Bu i'r prosiect gynnal dadansoddiad o'r anghenion ac o'r rhanddalwyr yn y cymunedau y mae'r Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn rhan ohonynt.

Gweithiodd y prosiect yn benodol ar thema Rheoli Safle, a oedd yn cynnwys pori a bioamrywiaeth rhywogaethau. Cafodd grŵp lleol, sef Cyfeillion y Comin, ei ffurfio o blith trigolion lleol, grwpiau, busnesau, ac arbenigwyr ym mhob agwedd ar dir comin. Penderfynwyd ar botensial y safle o ran datblygu drwy ddadansoddi anghenion. Lluniwyd fersiwn drafft o gynllun gweithredu cyllido yn unol â'r anghenion a bennwyd. Bu swyddog y prosiect yn gweithio gyda'r holl gymdeithasau porwyr i ddatblygu cynllun gweithredu i wella'r rheolaeth dros eu stoc, er mwyn adfer mannau lle mae llystyfiant gwyllt yn ennill tir. Hefyd, yn ei dro bydd hyn yn hwb i fioamrywiaeth leol y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Cyswllt