Skip to content

Datblygu Hunaniaeth a Nodweddion Unigryw

Cyflwynwyd:561 diwrnod yn ôl gan Roxanne Treacy

  • Ffynhonnell y cyllid: Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007 i 2013
  • Swm y cyllid: £390,745
  • Dyddiad cwblhau: 30/03/2011
  • Maes: Sir Gaerfyrddin
  • Echel: Echel 3

Crynodeb o'r prosiect

Nod y prosiect hwn oedd hybu arbenigrwydd lleol cymunedau gwledig er mwyn denu rhagor o dwristiaeth a buddsoddiad, ynghyd â rhoi gwell cyfleoedd cymdeithasol i bobl leol.

Cyflogwyd swyddog datblygu gan y prosiect i weithio mewn cymunedau gwledig er mwyn:

  • hyrwyddo'r dreftadaeth a'r diwylliant lleol a manteisio ar adnoddau prin eu defnydd a thraddodiadau cefn gwlad Sir Gaerfyrddin, gan weithio gyda phobl leol a grwpiau cymunedol
  • clustnodi'r camau y gellid eu cymryd i wella'r posibiliadau o ran twristiaeth mewn ardal ddaearyddol benodol neu ganolbwynt gwledig
  • clustnodi rôl bosibl y canolbwynt fel man ar gyfer diddordebau/themâu arbennig, gan ddatblygu atyniadau twristiaeth presennol (ac ychwanegu gwerth atynt) a thraddodiadau diwylliannol a hanesyddol yr ardal. Ymhlith yr enghreifftiau o feysydd o ddiddordeb arbennig y gellid canolbwyntio arnynt y mae'r themâu canlynol: afonydd, cestyll ac ati.
  • gweithio gyda darparwyr presennol i dwristiaid er mwyn cryfhau gweithgareddau cydweithredol yn y canolbwynt
  • datblygu a darparu cynlluniau gweithredu lleol o ran nodweddion unigryw ym mhob un o'r canolbwyntiau gwledig
  • cynorthwyo grwpiau cymunedol i ddatblygu cynigion newydd i wella'r posibiliadau o ran twristiaeth yn y canolbwynt gwledig.

Ymhlith yr enghreifftiau o'r gweithgareddau sydd wedi cael cymorth gan y prosiect y mae:

  • gweithgareddau sy'n gwella'r dreftadaeth leol; yr amgylchedd adeiledig a naturiol; a'r diwylliant lleol
  • gwyliau a digwyddiadau strategol e.e. gwyliau afonydd; cestyll; beirdd ac awduron lleol; tirwedd wledig; yr iaith Gymraeg; cerddoriaeth Gymraeg ac ati
  • cyfleusterau twristiaeth ar raddfa fechan/cyfleusterau crefftau
  • gweithgareddau marchnata
  • twristiaeth awyr agored

Cyswllt