Skip to content

Grant Addasiadau yng Nghefn Gwlad

Cyflwynwyd:591 diwrnod yn ôl gan Roxanne Treacy

  • Ffynhonnell y cyllid: Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007 i 2013
  • Swm y cyllid: £711,770
  • Dyddiad cwblhau: 30/08/2011
  • Maes: Sir Gaerfyrddin
  • Echel: Echel 3

Crynodeb o'r prosiect

Nod y prosiect yw helpu i adfywio'r Sir Gaerfyrddin wledig yn ffisegol ac yn economaidd, drwy gymryd camau a fydd o gymorth i'r sector preifat ac a fydd yn arwain at greu swyddi cynaliadwy yn yr ardal.

Caiff hyn ei gyflawni trwy gynnig cymorth grant ar ffurf Grantiau Addasiadau yng Nghefn Gwlad i'r sector preifat.

Bydd y Grantiau Addasiadau yng Nghefn Gwlad yn helpu i ddefnyddio adeiladau diangen yn y Sir Gaerfyrddin wledig at ddibenion busnes, a fydd yn creu swyddi newydd. Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau y bydd yr economi leol yn elwa'n wirioneddol arnynt o ran safon a nifer y swyddi a grëir.

Bydd y grant ar gael i'r sector preifat, ac yn benodol i ficrofusnesau a mentrau cymdeithasol. Bydd y grantiau'n targedu busnesau newydd a busnesau sydd am symud neu ehangu.

Cyswllt