Skip to content

Entrepreneuriaeth Wledig

Cyflwynwyd:566 diwrnod yn ôl gan Roxanne Treacy

  • Ffynhonnell y cyllid: CDG
  • Swm y cyllid: £1347,212
  • Dyddiad cwblhau: 31/12/2013
  • Maes: Sir Gaerfyrddin
  • Echel: Echel 3

Crynodeb o'r prosiect

Nod y prosiect yw cynyddu sail economaidd y Sir Gaerfyrddin wledig.

Mae'r prosiect yn cynnwys pecyn cymorth cynhwysfawr a ddyluniwyd i ehangu sail economaidd y Sir Gaerfyrddin wledig drwy fynd i'r afael â'r prif ffactorau sy'n rhwystro twf a pherfformiad microfusnesau presennol ac sy’n atal busnesau newydd rhag cael eu sefydlu yn y Sir Gaerfyrddin wledig. Mae'r prosiect yn cynnwys y prif elfennau canlynol:

  • Bydd y prosiect yn cyflogi hwyluswyr busnes penodedig a fydd yn rhoi cyngor ac yn hwyluso mynediad i'r ystod lawn o gymorth sydd ar gael yn y maes. Hefyd bydd y prosiect yn datblygu tîm o fentoriaid a glustnodwyd drwy Siambr De Cymru a fydd yn helpu microfusnesau i fabwysiadu diwylliant mwy entrepreneuraidd ac i greu model ar gyfer "Siambr Iau" sy'n fforwm rhwydweithio a thrafod ar gyfer pobl fusnes ifanc a newydd. (Entrepreneuriaeth Wledig)
  • Nod ail elfen y prosiect yw cynyddu'r cymorth sydd ar gael i helpu i ddatblygu pobl ifanc fel eu bod yn entrepreneuriaid ifanc. (Mentro ar Fusnes)
  • Bydd trydedd elfen y prosiect yn helpu i adfywio 5 canolbwynt gwledig y sir yn ffisegol ac yn economaidd drwy fynd i'r afael â'r prinder adeiladau diwydiannol a swyddfeydd, a thrwy hynny gynyddu cystadleugarwch yr aneddiadau allweddol hyn. Caiff hyn ei gyflawni trwy gynnig cymorth grant ar ffurf Grantiau Adeiladau Gwledig Diangen i ficrofusnesau. (Grantiau Adeiladau Diangen yng Nghefn Gwlad)
  • Bydd y bedwaredd elfen yn helpu i gynyddu'r cymorth a gynigir ar hyn o bryd i ficrofusnesau o ran cyngor a chyfarwyddyd amgylcheddol. (Adfer)

Cyswllt