Skip to content

Cryfhau Atyniadau Twristiaeth y Sir Gaerfyrddin Wledig

Cyflwynwyd:558 diwrnod yn ôl gan Roxanne Treacy

  • Ffynhonnell y cyllid: CDG
  • Swm y cyllid: £1,242,012
  • Dyddiad cwblhau: 31/12/2013
  • Maes: Sir Gaerfyrddin
  • Echel: Echel 3

Crynodeb o'r prosiect

Nod y prosiect yw cryfhau apêl y Sir Gaerfyrddin wledig fel cyrchfan o safon i dwristiaid drwy gydol y flwyddyn, a hynny drwy ddatblygu a hyrwyddo cynnyrch. Prif amcanion y polisi yw:

  • gwella safon y cynnyrch twristiaeth presennol yn y Sir Gaerfyrddin wledig drwy roi cymorth ariannol ar gyfer gwella llety/cyfleusterau presennol;
  • annog y maes twristiaeth i fod yn 'fwy gwyrdd';
  • trwy fuddsoddi mewn cynnyrch fel y nodir uchod, helpu i ymestyn y tymor a hyrwyddo Sir Gaerfyrddin fel cyrchfan o safon drwy gydol y flwyddyn;
  • diogelu'r swyddi presennol a chreu rhai newydd yn y sector twristiaeth;
  • rhoi i gymunedau gwledig ymdeimlad o le, sy'n ychwanegu at brofiad ymwelwyr.

Mae'r prosiect yn cynnwys pecyn cymorth strategol sydd wedi'i ddylunio i gynnal twf y sector twristiaeth fel cyflogwr allweddol yn y Sir Gaerfyrddin wledig. Yn benodol, bydd y prosiect yn cefnogi gweithgareddau sy'n: gwella safon y dwristiaeth a gynigir, yn ymestyn y tymor twristiaeth, ac yn hybu twristiaeth sy'n 'fwy gwyrdd'.

Bydd grantiau cyfalaf ar gael ar gyfer darparwyr presennol ym maes twristiaeth, i'w helpu i:

a) diwallu anghenion a chyflawni disgwyliadau newidiol y defnyddwyr
b) hybu arferion busnes ym maes twristiaeth sy'n 'fwy gwyrdd'

Yn ogystal â'r gweithgareddau uchod, bydd y prosiect yn cyllido 5 prosiect mewn mannau daearyddol penodol sy'n datblygu atyniadau/cyfleusterau twristiaeth presennol neu sy'n creu rhai newydd, ac sy'n gallu dangos y potensial i gynyddu nifer yr ymwelwyr â'r ardal. Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sy'n gallu ychwanegu gwerth at nodweddion unigryw'r canolbwynt gwledig.

Cyswllt