Skip to content

Tywi Afon yr Oesoedd

Cyflwynwyd:562 diwrnod yn ôl gan Roxanne Treacy

  • Ffynhonnell y cyllid: Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007 i 2013
  • Swm y cyllid: £557,378
  • Dyddiad cwblhau: 29/04/2011
  • Maes: Sir Gaerfyrddin
  • Echel: Echel 3

Crynodeb o'r prosiect

Nod y prosiect hwn yw dod â chymunedau Dyffryn Tywi ynghyd i warchod, gwella, a dathlu treftadaeth naturiol a diwylliannol yr ardal wledig hon, gan greu etifeddiaeth i'r dyfodol. Rhoddir y rhaglen ar waith drwy bedair rhaglen sydd hefyd yn rhoi sylw i argymhellion Strategaeth Tirwedd Dyffryn Tywi. Mae pob rhaglen yn annibynnol ond mae nifer o gysylltiadau rhwng y rhaglenni sy'n atgyfnerthu'r cynllun yn gyffredinol.

Chwilota Tywi! Cynllun ymwybyddiaeth amgylcheddol yw hwn sy'n ymchwilio i dreftadaeth wledig naturiol yr ardal ac i sut a pham mae'r dyffryn wedi newid drwy'r oesoedd. Bydd pobl o gymunedau lleol a phobl o'r tu hwnt i ardal graidd y prosiect yn gallu ymchwilio i orffennol Dyffryn Tywi drwy gyfrwng darganfyddiadau daearyddol, archeolegol, a hanesyddol.

Darganfod y Tywi Bydd y rhaglen hon yn adrodd hanes Dyffryn Tywi drwy gyfres o weithgareddau dehongli ac iddynt thema. Bydd gan gymunedau gwledig ran annatod yng ngweithrediad y rhaglen hon er mwyn helpu i wella dealltwriaeth, ymwybyddiaeth, a gwerthfawrogiad o rinweddau arbennig y Dyffryn ac i atgyfnerthu'r cysylltiad rhwng cymunedau gwledig a'r dirwedd wledig.

Gweithredu ynghylch Tirwedd a Bioamrywiaeth Bydd y rhaglen hon yn cael ei gweithredu drwy gyfuniad o gyfleoedd dysgu ym maes sgiliau gwledig traddodiadol, gweithgareddau gwirfoddol, a 'Tirwedd Tywi' sef cynllun grant cyfalaf bach i drydydd partïon ar gyfer perchnogion tir a grwpiau cymunedol. Bydd y camau gweithredu hyn yn helpu i warchod a gwella nodweddion yr ardal wledig hon o ran ei threftadaeth ddiwylliannol a naturiol, ac i ddatblygu'r sgiliau sy'n angenrheidiol er mwyn cynnal y pethau hyn yn y dyfodol.

Y Ganolfan Adeiladu Traddodiadol Cynaliadwy Caiff y ganolfan hon ei chreu yn Dinefwr Home Farm yn y Sir Gaerfyrddin wledig er mwyn creu canolfan hyfforddiant fel bod myfyrwyr a'r cyhoedd yn gallu dysgu sgiliau traddodiadol sy'n prysur ddiflannu o ran gwaith cerrig a gwaith coed. Mae'r sgiliau hyn yn hanfodol er mwyn cynnal yr adeiladau traddodiadol sy'n gysylltiedig â'r dyffryn gwledig hwn. Hefyd bydd y Ganolfan yn amlygu'r defnydd o dechnoleg gynaliadwy mewn adeiladau traddodiadol, ac fe'i defnyddir fel canolfan wybodaeth wledig lle rhoddir cyngor i'r cyhoedd am adnewyddu a gwella'r dreftadaeth ddiwylliannol mewn modd cynaliadwy.

Cyswllt