Skip to content

Y Llwyfan

Cyflwynwyd:562 diwrnod yn ôl gan Roxanne Treacy

  • Ffynhonnell y cyllid: CDG
  • Swm y cyllid: £135,722
  • Dyddiad cwblhau: 28/02/2011
  • Maes: Sir Gaerfyrddin
  • Echel: Echel 3

Crynodeb o'r prosiect

'Y Llwyfan' yw enw'r ganolfan fentergarwch ddiwylliannol newydd (a gostiodd £2.5 miliwn) yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, ac mae'n fenter ar y cyd rhwng Coleg y Drindod, Cyngor Sir Caerfyrddin, Theatr Genedlaethol Cymru, a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

I grynhoi, penodwyd swyddog ar gyfer y prosiect i fod yn gyfrifol am hyrwyddo a datblygu'r sector creadigol a diwylliannol yn y Sir Gaerfyrddin wledig, ynghyd â chyllidebau ar gyfer hyfforddiant penodol a gweithgareddau marchnata. Roedd y prosiect yn targedu busnesau, unigolion, a phobl ifanc ledled y Sir Gaerfyrddin wledig er mwyn cyfrannu rhagor at sefydliad, twf, a datblygiad busnesau yn y sector creadigol a diwylliannol.

Cyswllt