Skip to content

Gwasanaethau Gwledig Sir Ddinbych

Cyflwynwyd:1,011 diwrnod yn ôl gan Cadwyn Clwyd

  • Ffynhonnell y cyllid: Cynllyn Datblygu Gwledig i Gymru
  • Swm y cyllid: £1,103,306.00
  • Dyddiad cwblhau: 28/02/2011
  • Maes: Sir Ddinbych
  • Echel: Echel 4
  • Mesuriad 413

Crynodeb o'r prosiect

Bydd y prosiect yn treialu mentrau newydd sydd â'r nod o ddarparu gwasanaethau sylfaenol ar gyfer Sir Ddinbych wledig. Prosiectau fel cyfleusterau trafnidiaeth gymunedol e.e. caiff trafnidiaeth sy'n ymateb i alw ei dreialu, a chaiff gwasanaethau cymunedol eu cefnogi, er enghraifft datblygu siop gymunedol newydd.

Bydd y prosiect hefyd yn cynnal mentrau o dan raglen 'The Pub is the Hub'. Bydd gwasanaethau gwledig sylfaenol eraill a nodir yn y Cynllun Datblygu Gwledig fel hamdden, chwaraeon a gweithgareddau diwylliannol hefyd yn cael eu cefnogi.

Bydd elfen Mynediad i Wasanaethau Hanfodol yn cefnogi menter beilot a fydd yn gweithredu ymgyrch gan y cyfryngau i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd i wella arwyddion ffermydd ac anheddau gwledig yn gyffredinol. Dim ond mentrau peilot arloesol sy'n newydd i'r ardal leol a gefnogir gan y prosiect, neu bydd yn cefnogi mentrau sy’n bodoli eisoes ac sy'n ceisio treialu elfen newydd o'u menter.

Cyswllt