Skip to content

Datblygu Dysgu Cymunedol Gwledig Sir Ddinbych

Cyflwynwyd:703 diwrnod yn ôl gan Eirwyn Jones

  • Ffynhonnell y cyllid: Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007 i 2013
  • Swm y cyllid: £323,849
  • Dyddiad cwblhau: 29/08/2011
  • Maes: Sir Ddinbych
  • Echel: Echel 3
  • Mesuriad 331

Crynodeb o'r prosiect

Bydd y prosiect hwn yn galluogi cymunedau gwledig lleol ac yn eu grymuso i ddatblygu a gweithredu cynlluniau dysgu i’w cymunedau.

Dros dair blynedd, bydd y prosiect yn cynnig cyfleoedd dysgu anffurfiol lleol yn ardaloedd gwledig Sir Ddinbych gan ddefnyddio amwynderau lleol. Bydd y dysgu’n canolbwyntio ar ddyheadau ac anghenion y gymuned leol gyda phwyslais arbennig ar yr amgylchedd lleol, diwylliant lleol, sgiliau traddodiadol, sgiliau ar gyfer cynaladwyedd ac annog cyfranogiad a hyder lleol. Bydd cyllid yn cael ei ddefnyddio i gyflogi cydlynydd datblygu gwledig ar gyfer yr ardal wledig, crefftwyr traddodiadol (lleol lle bo’n bosibl), tiwtoriaid ac adnoddau i gyflenwi’r prosiect yn briodol.

Bydd anghenion cymunedau dwyieithog yn cael eu diwallu drwy ddarpariaeth ddwyieithog, Cydlynydd dwyieithog, pwyslais ar ddiwylliant lleol, cyflenwi lleol, annog a gwreiddio datblygiad sgiliau iaith Gymraeg mewn cyd-destunau eraill.

Cyswllt