Skip to content

Cymorth Menter i Fusnesau Gwledig

Cyflwynwyd:331 diwrnod yn ôl gan Helen May

  • Ffynhonnell y cyllid: Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007 i 2013
  • Swm y cyllid: £152,943.66
  • Dyddiad cwblhau: 31/12/2013
  • Maes: Castell-nedd Port Talbot
  • Echel: Echel 3
  • Mesuriad 312

Crynodeb o'r prosiect

Mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar sail prosiect dan Gynllun Busnes 1 a oedd â’r bwriad o roi unigolion ar ben ffordd ynghylch hunangyflogaeth, a darparu gwasanaethau cymorth busnes i ficrofusnesau presennol.

Mae’r prosiect newydd wedi cymryd i ystyriaeth yr agweddau mwyaf effeithiol ar y prosiect a grybwyllwyd uchod, ac yn bwriadu dileu’r agweddau llai effeithiol gan ychwanegu dimensiwn newydd at y broses gyflenwi, sef Swyddog Datblygu a fydd â’r gwaith penodol o hyrwyddo, rheoli a chydgysylltu’r broses o gyflenwi’r prosiect.

Bydd y prosiect hwn:

  • yn hybu entrepreneuriaeth ac yn cymell sefydlu busnesau newydd;
  • yn darparu cymorth parhaus i’r rheini sy’n ystyried dod yn hunangyflogedig;
  • yn hybu datblygiad microfentrau presennol drwy ddarparu gwasanaeth mentora a chyllid i gaffael cyngor arbenigol;
  • yn creu’r potensial ar gyfer twf, cynaliadwyedd tymor hir, a chyfleoedd mewn swyddi lleol i gymunedau gwledig yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Cyswllt