Skip to content

Datblygu’r Gymraeg yn Wrecsam wledig

Cyflwynwyd:334 diwrnod yn ôl gan Toni Godolphin

  • Ffynhonnell y cyllid: Cronfa Datblygu Gwledig 2007-2013
  • Swm y cyllid: £54,195
  • Dyddiad cwblhau: 29/06/2010
  • Maes: Wrecsam
  • Echel: Echel 4
  • Mesuriad 413, 331

Crynodeb o'r prosiect

Mae Menter Iaith Maelor yn gweithio ym mhob rhan o Fwrdeistref Sirol Wrecsam i hyrwyddo defnydd ac ymwybyddiaeth o’r Gymraeg ar lefel gymunedol. Mae angen ymchwil i ddarganfod pa weithgareddau cymunedol sy’n briodol i gyflawni’r nodau hyn. Bydd y gwaith ymchwil hwn yn ystyried y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg bresennol ym mhob rhan o Wrecsam wledig ac yn nodi cryfderau a gwendidau’r ddarpariaeth bresennol, drwy weithio mewn partneriaeth â chyrff eraill fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, cynghorau cymuned, cyrff gwirfoddol a chwmnïau preifat. Er mwyn cyflawni’r gwaith ymchwil hwn a chychwyn gweithgareddau mewn ymateb i’r canfyddiadau, rydym yn bwriadu cyflogi Swyddog Ymchwil a Datblygu hanner amser am gyfnod o ddwy flynedd.

Rhagwelir y bydd y mathau o ddarpariaeth Gymraeg a gaiff eu trefnu mewn ymateb i’r gwaith ymchwil yn cynnwys:

  • Sesiynau Siarad: cyfleoedd mewn canolfannau cymunedol, tafarnau a lleoliadau tebyg i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg, gan ddefnyddio adnoddau priodol i hybu sgwrs.
  • Nosweithiau adloniant Cymraeg a dwyieithog, e.e. nosweithiau o ganu gwerin gyda chaneuon Cymraeg a sylwebaeth Saesneg.
  • Sesiynau ymwybyddiaeth iaith i gyrff cymunedol a busnesau, i’w galluogi i ddefnyddio’r Gymraeg yn y ffordd fwyaf priodol ar gyfer eu cyd-destun, yn cynnwys cyngor ynghylch y defnydd gorau o gyfleusterau cyfieithu. Bydd hyn yn cynnwys hybu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd hanesyddol y Gymraeg mewn gwahanol ardaloedd, ffactor a all fod yn bwysig hyd yn oed mewn cymunedau lle nad yw’r iaith lafar yn amlwg heddiw.
  • Bydd lleoliad ac amlder y digwyddiadau hyn yn dibynnu ar y casgliadau sy’n codi o’r ymchwil.


Cyswllt