Skip to content

Dweud Stori Ddigidol

Cyflwynwyd:330 diwrnod yn ôl gan Toni Godolphin

  • Ffynhonnell y cyllid: Cronfa Datblygu Gwledig 2007-2013
  • Swm y cyllid: £176,406
  • Dyddiad cwblhau: 28/02/2011
  • Maes: Wrecsam
  • Echel: Echel 3
  • Mesuriad 323

Crynodeb o'r prosiect

Drwy gydweithio â Choleg Iâl bydd y Prosiect Dweud Stori Ddigidol yn brosiect ar raddfa eang a fydd yn cofnodi rhywfaint o’r wybodaeth fwyaf gwerthfawr am dreftadaeth ddiwydiannol o’r 21 ganrif ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a bydd wedi’i gysylltu hefyd â chynulleidfaoedd yng Nghymru, y DU ac mewn gwledydd tramor drwy ei gynnwys ar wahanol wefannau. Bydd yr adnodd rhagorol hwn ar gael i’w ddefnyddio’n llawn wedyn gan grwpiau cymunedol ac addysgol.
Bydd y prosiect yn cynnwys y canlynol:-
• Ymchwilio a chynllunio gyda Choleg Iâl i sicrhau bod y prosiect wedi’i gyflawni a’i gwblhau o fewn yr amserlen gywir ac ar gyfer y gynulleidfa darged gywir
• Penodi cydgysylltydd Dweud Stori Ddigidol
• Datblygu Cynllun Gweithredu i gynnwys unigolion a chymunedau yn y prosiect
• Creu storïau digidol
• Creu arddangosfa o’r broses a chynllunio digwyddiad i ddathlu ac arddangos y canfyddiadau
• Cynnwys storïau ar wefannau cenedlaethol a rhanbarthol
Cyflawnir y gweithgareddau penodol a ganlyn:
• Cyfarfod cyffredinol mewn canolfan gymunedol i edrych ar rai enghreifftiau blaenorol o storïau
• Rhoi gwybodaeth am amserlenni a chamau gweithredu
• Cynnal gweithdai a fydd yn gyfle delfrydol i’r gymuned gael dealltwriaeth o’r broses o wneud storïau digidol.
• Pobl yn cymryd rhan drwy recordio’r storïau
• Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael DVD o’i stori ei hun
• Cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn cynllunio arddangosfa a digwyddiad terfynol i ddathlu eu rhan yn y prosiect a sylweddoli pwysigrwydd yr adnodd sydd wedi’i greu
• Hybu cysylltiadau cryf ag ysgolion sy’n pontio’r cenedlaethau

Cyswllt