Skip to content

Cam-drin domestig - Butterflies - yr hawl i fod yn ddiogel

Cyflwynwyd:333 diwrnod yn ôl gan Toni Godolphin

  • Ffynhonnell y cyllid: Cronfa Datblygu Gwledig 2007-2013
  • Swm y cyllid: £74,020
  • Dyddiad cwblhau: 28/02/2011
  • Maes: Wrecsam
  • Echel: Echel 4
  • Mesuriad 413, 321

Crynodeb o'r prosiect

Bydd y prosiect yn datblygu trefniadau partneriaeth rhyngasiantaethol a fydd yn hyrwyddo ymateb cydgysylltiedig wrth ddarparu cymorth arbenigol yn ardaloedd gwledig Wrecsam ar gyfer:-

  • Mamau a phlant sydd wedi profi effaith negyddol oherwydd cam-drin domestig.
  • Rhai yn eu harddegau sydd mewn perygl oherwydd mathau o ymddygiad camweithredol a strategaethau ymdopi sy’n gysylltiedig â gweld a phrofi cam-drin domestig.

Mae’r rhaglenni hyn wedi’u datblygu gan NSPCC Gogledd Cymru mewn partneriaeth â Communities for Communities. Maent yn rhoi cyfle i weithwyr proffesiynol a chymunedau ehangu, datblygu ymhellach a darparu rhaglenni ataliol ar ôl cam-drin domestig.

Bydd partneriaeth o weithwyr proffesiynol o asiantaethau lleol yn darparu rhaglenni ‘Butterflies: yr Hawl i fod yn Ddiogel’ yr NSPCC.

Bydd Rhaglen Un yn darparu rhaglen therapiwtig ddeg wythnos o hyd o ddysgu cyfochrog ar ôl cam-drin ar gyfer menywod a phlant ynghylch effaith cam-drin domestig ar eu bywydau. Mae’n helpu i ailddehongli profiadau gan gynnig fforwm therapiwtig yr un pryd i fenywod a phlant gael trafod eu teimladau mewn amgylchedd diogel.

Bydd Rhaglen Dau yn darparu rhaglen ddeg wythnos o hyd i rai yn eu harddegau a fydd yn trafod eu profiad o gam-drin domestig a sut y gallai effeithio ar eu hymddygiad. Mae’r rhaglen yn helpu i feithrin hunan-barch a mathau amddiffynnol o ymddygiad gan roi sylw i faterion sy’n ymwneud â dicter a gwrthdaro, rhyw a rhywedd.

Mae’r NSPCC wedi treialu’r rhaglenni hyn ledled Cymru ac mae gwerthusiad annibynnol gan Brifysgol Caerdydd (Gorffennaf 2006) yn cynnig argymhellion cadarnhaol ar gyfer darparu pellach yn enwedig mewn cymunedau gwledig.

Cyswllt