Skip to content

Prosiect Cynaliadwyedd Gardd Erlas

Cyflwynwyd:359 diwrnod yn ôl gan Toni Godolphin

  • Ffynhonnell y cyllid: Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007 i 2013
  • Swm y cyllid: £216,500
  • Dyddiad cwblhau: 31/12/2009
  • Maes: Wrecsam
  • Echel: Echel 4
  • Mesuriad 413, 323

Crynodeb o'r prosiect

Mae Prosiect Gardd Erlas yn hyrwyddo ac yn diogelu iechyd pobl sydd ag anableddau iechyd meddwl a dysgu drwy ddarparu gweithgareddau ystyrlon yn ystod y dydd, addysg a hyfforddiant a phrofiad gwaith mewn garddwriaeth. Cyflawnir hyn drwy gynnal a chadw Gardd Furiog Fictoraidd Erlas.

Nod y prosiect yw creu elfennau a fydd yn fodd i ehangu cwmpas Prosiect Gardd Erlas i wneud y prosiect yn hygyrch i’r gymuned leol, fel y gellir cynnwys mwy o fuddiolwyr gan arwain at gynaliadwyedd drwy gyfleoedd i greu incwm yn y dyfodol. Bydd y lefelau staffio a’r cyfleusterau safle presennol yn darparu ar gyfer cynnydd o 53% o leiaf yn niferoedd y buddiolwyr neu ddefnyddwyr gwasanaethau.

Cyflawnir y nodau hyn drwy wneud llwybr natur a fydd yn cwmpasu’r safle cyfan ac adeiladu gardd synhwyraidd a man picnic.

Drwy ddechrau defnyddio technegau hydroponig yn y twneli polythen bydd modd cynnig mwy o gyfleoedd hyfforddiant a phrofiad gwaith i fuddiolwyr.

Drwy adfer rhan bellach o furiau’r ardd a chreu mannau gweithio/plannu uwch na lefel y llawr bydd modd cael mwy o ddefnydd o’r cyfleusterau, yn enwedig gan bobl sydd ag anableddau corfforol.

Mae’r prosiect yn cyfrannu at gynyddu lefelau cyflogadwyedd a chymwysterau ei fuddiolwyr ac at gynyddu cyfleoedd gydol oes ar gyfer dysgu ac uwchsgilio.

Bydd y gwaith o ddatblygu’r prosiect drwy’r gweithgareddau a ddisgrifiwyd yn hwyluso nod tymor hir Prosiect Gardd Erlas o ddatblygu’r safle cyfan yn gyfleuster addysgol, diwylliannol ac adloniadol i bobl Wrecsam. Fel rhan o’r nod hwn, bydd yn fodd i hyrwyddo ffyrdd o fyw iach yn y gymuned leol, er enghraifft, drwy helpu ysgolion lleol i gynnal prosiectau ‘o’r hedyn i’r plât’ yn yr ardd.

Cyswllt