Skip to content

Gwerthuso a chynllunio ar gyfer adfer rhan o Dramffordd wreiddiol y Glyn

Cyflwynwyd:327 diwrnod yn ôl gan Toni Godolphin

  • Ffynhonnell y cyllid: Cronfa Datblygu Gwledig 2007-2013
  • Swm y cyllid: £38,500
  • Dyddiad cwblhau: 31/12/2008
  • Maes: Wrecsam
  • Echel: Echel 4
  • Mesuriad 413, 313

Crynodeb o'r prosiect

Pwrpas y prosiect yw cynnal gwerthusiad manwl o’r galw, o hyfywedd ac o faterion technegol mewn cysylltiad ag adfer rhan o Dramffordd wreiddiol y Glyn yn rheilffordd weithredol. Canlyniad y prosiect fyddai adroddiad cynhwysfawr ac iddo bedair adran:

• Astudiaeth Lefel Uchel o werth cymdeithasol, economaidd a diwylliannol cynllun o’r fath. Byddai’r adroddiad hwn yn trafod arolygon ac ymgynghori lleol, yn casglu gwybodaeth ystadegol berthnasol arall ac yn ystyried lefelau’r galw yn y farchnad a’r gefnogaeth/diddordeb lleol y byddai cynllun o’r fath yn ei ddenu. Yn ogystal â hyn, bydd yr adroddiad yn cynnig cyngor ynghylch y dulliau tebygol o ariannu a hyfywedd tymor hir y cynllun. Bydd yr Astudiaeth Lefel Uchel hefyd yn edrych ar yr opsiynau tymor hir ar gyfer adfer y dramffordd ar hyd ei llwybr i Lyn Ceiriog un ai fel menter twristiaeth neu fel menter cludiant lleol hyfyw. Yn olaf, bydd yr Adroddiad Lefel Uchel yn pennu’r lleoliad mwyaf hyfyw ar gyfer y cyfnod cyntaf o waith adfer, os dangosir bod y cynllun cyfan yn hyfyw.

• Cynllun manwl ar gyfer y cyfnod cyntaf

• Cynllun Busnes manwl ar gyfer y cyfnod cyntaf

• Cyflwynir yr Adroddiad ar gyfer ymgynghori cyhoeddus mewn ‘digwyddiad creu gweledigaeth’ (ar yr un pryd â digwyddiad arall yn yr ardal o bosibl) a fydd yn egluro casgliadau’r Adroddiad ac yn dangos manylion y cyfnod cyntaf arfaethedig (os bydd argymhelliad o blaid hynny).

Cyswllt