Skip to content

Gwasanaeth gwybodaeth allgymorth i rieni

Cyflwynwyd:366 diwrnod yn ôl gan Toni godolphin

  • Ffynhonnell y cyllid: Cronfa Datblygu Gwledig 2007-2013
  • Swm y cyllid: £235,750
  • Dyddiad cwblhau: 28/02/2011
  • Maes: Wrecsam
  • Echel: Echel 4
  • Mesuriad 413, 331

Crynodeb o'r prosiect

Prif nodau’r prosiect yw:

  • Gwella mynediad at wasanaethau drwy ddarparu gwybodaeth, cyfarwyddyd a chymorth i rieni ynghylch yr ystod eang o wasanaethau sydd ar gael i fodloni eu hanghenion hwy ac anghenion eu plant.
  • Galluogi rhieni di-waith i gael mynediad at gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth drwy ddarparu gofal plant am ddim/â chymhorthdal, costau cludiant a hyfforddiant am ddim.
  • Gwella seilwaith cymunedol drwy gynyddu nifer y lleoedd gofal plant a nifer y lleoliadau gofal plant sydd ar gael yn lleol drwy ddarparu hyfforddiant am ddim i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio yn y sector gofal plant.
  • Hybu iechyd a lles rhieni, plant a phobl ifanc drwy ddarparu ystod eang o wybodaeth iechyd a thrwy godi teuluoedd allan o dlodi.

Bydd y prosiect yn darparu:

  • Gwasanaeth gwybodaeth allgymorth i rieni a gofalwyr mewn ardaloedd gwledig
  • Gwell mynediad at wybodaeth, cymorth a chyfarwyddyd i rieni a gofalwyr am bob agwedd ar ofal plant a gwasanaethau plant ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam er mwyn gwella’r defnydd o wasanaethau’n lleol a ledled y sir.
  • Cynorthwyo rhieni i’w galluogi i gael mynediad at gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth drwy ddarparu gofal plant am ddim/â chymhorthdal, a chostau cludiant a hyfforddiant.

Cyswllt