Skip to content

Gwelliannau Amgylcheddol ym Mhlas Power

Cyflwynwyd:365 diwrnod yn ôl gan Toni Godolphin

  • Ffynhonnell y cyllid: Cronfa Datblygu Gwledig 2007-2013
  • Swm y cyllid: £45,094
  • Dyddiad cwblhau: 29/06/2009
  • Maes: Wrecsam
  • Echel: Echel 3
  • Mesuriad 323

Crynodeb o'r prosiect

Mae Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint wedi symud yn ddiweddar i safle Plas Power, Tan-y-fron, sydd wedi’i osod ar brydles iddo gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Ar wahân i le ar gyfer swyddfeydd, mae’r safle hefyd yn gartref i Ganolfan Addysg Amgylcheddol Plas Power, sy’n darparu amryw o raglenni cysylltiedig â’r cwricwlwm i ysgolion cynradd ac uwchradd yng ngogledd ddwyrain Cymru.

Nod y prosiect yw creu nifer o lwybrau cylch, pwll dŵr, llwyfan wylio, mannau picnic a phaneli dehongli o gwmpas y safle er mwyn gwella’r defnydd ohono gan aelodau o gymunedau lleol, grwpiau ysgol sy’n ymweld a busnesau. Ar hyn o bryd ceir 120 o ymweliadau â’r safle gan ysgolion cynradd bob blwyddyn, fe’i defnyddir yn rheolaidd gan blant lleol gyda gweithwyr ieuenctid a rhai sy’n mynd â’u cŵn am dro, ac fel cyfleuster hamdden awyr agored. Ymhlith y gweithgareddau penodol fydd:-

  • Adeiladu pwll dŵr a llwyfan wylio
  • Cynnal diwrnodau i wirfoddolwyr i adeiladu llwybrau, llwybrau pren a grisiau o gwmpas y safle
  • Datblygu rhaglen waith gyda gwirfoddolwyr lleol i gwblhau’r gwaith o adeiladu’r rhwydwaith o lwybrau troed
  • Gwneud gwaith ymchwil a dylunio’r byrddau dehongli mewn partneriaeth â grwpiau treftadaeth lleol
  • Cydweithio â grwpiau ysgol lleol i blannu’r pwll dŵr a chynnal sesiynau trochi
  • Cynnal digwyddiad dathlu i hysbysebu’r gwelliannau yn y cyfleuster hamdden ar safle Plas Power
  • Hysbysebu rhaglen a chyfleuster bioamrywiaeth newydd yng nghanolfan addysg Plas Power.

Bydd treftadaeth a bioamrywiaeth leol y safle’n cael eu hyrwyddo drwy gynnal prosiectau o’r fath.

Cyswllt