Skip to content

Prosiect cymunedol Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte

Cyflwynwyd:366 diwrnod yn ôl gan Toni Godolphin

  • Ffynhonnell y cyllid: Cronfa Datblygu Gwledig 2007-2013
  • Swm y cyllid: £264,063
  • Dyddiad cwblhau: 28/02/2011
  • Maes: Wrecsam
  • Echel: Echel 4
  • Mesuriad 421, 323

Crynodeb o'r prosiect

Mae’r prosiect hwn yn brosiect trawsffiniol ar y cyd â Grŵp Gweithredu Lleol Cadwyn Clwyd a Dyfrffyrdd Prydain. Ei nod yw dod â chymunedau at ei gilydd ar hyd coridor 11 milltir y gamlas rhwng y Waun a Llantysilio sy’n cynnwys y Safle Treftadaeth y Byd 2008 arfaethedig “Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte”.

Defnyddir cyllid i benodi Swyddog Prosiect Cymunedol a fydd yn ymgysylltu â chymunedau’r Waun, Pentre, Froncysyllte, Trefor, Garth, Pontcysyllte, Llangollen, Pentrefelin a Llantysilio. Bydd hyn yn cynnwys trigolion lleol, busnesau, ysgolion, cymunedau buddiant etc a bydd yn arwain at ffurfio grŵp “Cyfeillion y Gamlas”.

Yn ogystal â hyn, bydd y swyddog prosiect yn hwyluso dealltwriaeth a mwy o ymwybyddiaeth o’r dreftadaeth, bioamrywiaeth a diwylliant o fewn coridor y gamlas ac yn hybu cyfranogiad mewn cadwraeth amgylcheddol, a hynny’n cynnwys hyfforddiant mewn sgiliau cadwraeth.

Un agwedd bwysig ar ddynodiad Safle Treftadaeth y Byd yw addysg a dysgu a bydd y swyddog prosiect yn cydweithio’n agos â’r ysgolion lleol.

Datblygir rhaglen o ddigwyddiadau cymunedol drwy gydol cyfnod y prosiect.

Cyswllt