Skip to content

Gwasanaeth Cynghori ar TGCh Wledig

Cyflwynwyd:337 diwrnod yn ôl gan Toni Godolphin

  • Ffynhonnell y cyllid: Cronfa Datblygu Gwledig 2007-2013
  • Swm y cyllid: £115,322
  • Dyddiad cwblhau: 28/02/2011
  • Maes: Wrecsam
  • Echel: Echel 3
  • Mesuriad 312

Crynodeb o'r prosiect

Nod y prosiect yw gwneud busnesau gwledig lleol yn fwy cynaliadwy drwy eu helpu i gael y mwyaf o’u defnydd a’u gallu o ran TGCh. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo’r defnydd o TGCh ymysg busnesau gwledig, cynyddu’r defnydd o TGCh mewn ardaloedd gwledig, a helpu busnesau a grwpiau i gynnwys a defnyddio cymaint o TGCh ag sy’n bosibl yn eu busnes.

Bydd y prosiect yn cyflenwi’r gwasanaeth yn y modd mwyaf hyblyg posibl fel na fydd unrhyw grwpiau wedi’u cau allan o’r gwasanaeth. Er mwyn gwneud hyn, rhagwelir y bydd y canlynol yn cael eu cynnig:

  • Digwyddiadau hybu ymwybyddiaeth wedi’u targedu ar grwpiau neu dechnolegau penodol er mwyn cynnig cyngor ar unrhyw bynciau sy’n ymwneud â TG neu gyfathrebu.
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau partneriaeth gyda chyrff fel yr Adran Addysg a Hyfforddiant
  • Ymwneud â chyrsiau i fusnesau cyn ac ar ôl eu sefydlu
  • Darparu cymorthfeydd TGCh
  • Darparu cyngor a chymorth un i un
  • Bydd yr holl gyngor yn ddiduedd ac yn ddi-dâl a byddwn yn cyfeirio cleientiaid at y cyrff perthnasol. Byddai’r prosiect yn ceisio rhoi o leiaf 4 awr o gymorth i fusnes penodol mewn ymateb i bob ymholiad.

Cyswllt