Skip to content

Datblygu Microfentrau Gwledig

Cyflwynwyd:339 diwrnod yn ôl gan Toni Godolphin

  • Ffynhonnell y cyllid: Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013
  • Swm y cyllid: £224,468.61
  • Dyddiad cwblhau: 31/12/2013
  • Maes: Wrecsam
  • Echel: Echel 3
  • Mesuriad 312

Crynodeb o'r prosiect

Prosiect strategol yw hwn ac iddo dair elfen sy’n gwireddu’r cysyniad o gymorth, cyngor a grantiau wedi’u teilwra ar gyfer microfentrau i hybu eu gweithgarwch economaidd yn ardaloedd gwledig Wrecsam. Prif bwrpas y cymorth fydd ychwanegu gwerth at y busnesau cynhenid sydd wedi’u sefydlu eisoes yn ogystal â denu cyfleoedd drwy fewnfuddsoddi.

Bydd y prosiect yn annog sefydlu microfusnesau newydd yn ogystal â meithrin gallu busnesau presennol i gyrraedd marchnadoedd newydd a/neu ehangach yn ogystal â datblygu eu defnydd o’r Gymraeg.

Elfen 1 – Cymorth i Fusnesau Gwledig
Bydd yr elfen hon yn rhoi cymorth i fusnesau ar safleoedd cleientiaid ac mewn canolfannau allgymorth yn y gymuned drwy gymorthfeydd busnes. Bydd yn cynnwys datblygu a lledaenu’r arferion gorau (gan gynnwys rheolaeth amgylcheddol a defnyddio TGCh) i gryfhau sylfaen wybodaeth microfusnesau gan eu galluogi i gael y mwyaf o gyfleoedd, ehangu cysylltiadau â’r farchnad, a datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd. Bydd hyn yn arwain yn ei dro at greu’r sylfaen gynaliadwy i fusnesau sy’n ofynnol i ddarparu gweithgarwch economaidd a chyflogaeth barhaus yn yr ardaloedd gwledig.

Elfen 2 – Grantiau i Fusnesau Gwledig
Bydd yr elfen hon yn darparu cymorth grant ar ffurf grantiau ar gyfer materion amgylcheddol, TGCh, gwariant cyfalaf a chymorth i farchnata.

Elfen 3 – Dwyieithrwydd mewn Busnes
Bydd yr elfen hon yn darparu cymorth i ficrofentrau ar gyfer marchnata a datblygu busnes yn Wrecsam wledig mewn cysylltiad â datblygu eu defnydd o’r Gymraeg mewn busnes. Cyflawnir hyn drwy ddarparu cymorth i ddatblygu busnes newydd, grant ar gyfer marchnata dwyieithog a rhwydwaith marchnata dwyieithog.

Cyswllt