Skip to content

Patrwm Gwaith Ieuenctid De Maelor

Cyflwynwyd:339 diwrnod yn ôl gan Toni Godolphin

  • Ffynhonnell y cyllid: Cronfa Datblygu Gwledig 2007-2013
  • Swm y cyllid: £80,240
  • Dyddiad cwblhau: 28/02/2011
  • Maes: Wrecsam
  • Echel: Echel 4
  • Mesuriad 413, 321

Crynodeb o'r prosiect

Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn darparu gwasanaeth cyfyngedig yn ardal De Maelor. Mae angen darpariaeth fwy ac mae cyfle i gydgysylltu a gwella’r ddarpariaeth a gyflenwir gan y sectorau statudol a gwirfoddol, gan gynnwys gweithgareddau chwaraeon, sgowtiaid a geidiaid, Ffermwyr Ifanc, cynghorau ysgolion cynradd ac uwchradd etc. Er mwyn datblygu a chyflenwi darpariaeth ieuenctid sy’n diwallu anghenion pobl ifanc a’u cymunedau, mae’n hollbwysig bod yr holl bartneriaid allweddol yn cydweithio. Er mwyn sicrhau hyn, mae cais wedi’i baratoi a’i gyflwyno ar y cyd gan Wasanaeth Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cynghorau Cymuned De Maelor a’r Mudiad Ffermwyr Ifanc.

Mae’r canlynol yn enghreifftiau o’r mathau o weithgareddau y gellir eu cynnig:

  • Bancio amser
  • Addysg Awyr Agored (gyda mynediad i Nantyr)
  • Prifysgol y Plant
  • Cynllun Gwobrau Dug Caeredin
  • Gweithgareddau sy’n ymwneud â materion penodol h.y. iechyd a ffitrwydd, addysg cyffuriau ac alcohol, cyngor ar yrfaoedd, hawliau a chyfrifoldebau, etc.
  • Fforwm Ieuenctid
  • Mynediad i’r Rhaglen Sirol
  • Y celfyddydau/drama/chwaraeon/prosiectau cymunedol/codi arian/etc.
  • Mynediad i Ganolfan Pobl Ifanc ‘Y Fic’ ar gyfer gweithgareddau cerddorol, drama a dweud stori ddigidol yn y Digilab
  • Mynediad at ddarpariaethau eraill y Gwasanaeth Ieuenctid fel Nantyr, Tîm Cyffuriau ac Alcohol Pobl Ifanc, Prosiect Gwaith Ieuenctid yn yr Ysbyty (Hunan-niwed), Siop INFO i Bobl Ifanc, Fforwm Ieuenctid Sir Wrecsam, cyngor a chlinig Iechyd Rhywiol, Prosiect Eirioli’r Ail Lais a’r Gwasanaeth Cwnsela Outside In.
  • Darparu Cynlluniau Haf

Cyswllt