Skip to content

Treialon Gyrru Ceffylau Cenedlaethol Cymru – Erddig

Cyflwynwyd:365 diwrnod yn ôl gan Toni Godolphin

  • Ffynhonnell y cyllid: Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007 i 2013
  • Swm y cyllid: £203,020
  • Dyddiad cwblhau: 30/08/2010
  • Maes: Wrecsam
  • Echel: Echel 4
  • Mesuriad 413, 313

Crynodeb o'r prosiect

Mae bwriad i gynnal y Bencampwriaeth Gyrru Ceffylau Genedlaethol Cymru gyntaf erioed yn ardal Wrecsam gyda’r prif safle yn Erddig nad yw ond 2 filltir i’r de o ganol y dref. Mae Erddig yn atyniad mawr i ymwelwyr ar ei ben ei hun ac, oherwydd hynny, mae yno seilwaith eisoes a phrofiad i drefnu, rheoli a chynnal yr hyn a allai fod yn brosiect uchel iawn ei broffil.

  • Cydweithio â Chymdeithas Treialon Gyrru Ceffylau Prydain i ddarparu trac cystadlu o safon Genedlaethol a Rhyngwladol
  • Cynnal y gystadleuaeth gyntaf yng Ngorffennaf 2008, a chystadlaethau ar ôl hynny yn 2009 a 2010, gyda’r bwriad iddi ddod yn ddigwyddiad blynyddol ar galendrau ymwelwyr â Wrecsam a charedigion treialon gyrru ceffylau.

Er mwyn cynnal y digwyddiad byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Ffurfio pwyllgor digwyddiadau bach i gynllunio, rheoli, cyflawni a gwerthuso’r prosiect.
  • Trefnu i gael yr holl waith papur gofynnol, ffurflenni, asesiadau risg, yswiriant, trwyddedau
  • Dod o hyd i’r holl gyfleusterau lles a’u llogi, gan gynnwys toiledau, cyfleusterau arlwyo, cyflenwad dŵr ar gyfer y parc lorïau
  • Sicrhau iechyd a diogelwch staff, gwirfoddolwyr, cystadleuwyr a gwylwyr
  • Llogi system sain ac offer radio
  • Darparu hysbysebion a chyhoeddusrwydd cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiadau, gan gynnwys noddwyr a chyrff ariannu
  • Cydweithio ag adran ddigwyddiadau Erddig i ddarparu Ffair Wledig gysylltiedig, o fewn yr ardd yn Erddig i ddechrau ond gyda’r bwriad o’i datblygu ymhellach.
  • Monitro a gwerthuso’r digwyddiadau, drwy gydol y broses o’u cynllunio a’u rhedeg.
  • Ymdrechu i sicrhau erbyn 2010 y bydd Treialon Gyrru Ceffylau Cenedlaethol Cymru yn ddigwyddiad blynyddol, hunangynhaliol.

Cyswllt