Skip to content

Grant Busnesau Gwledig Wrecsam

Cyflwynwyd:339 diwrnod yn ôl gan Toni Godolphin

  • Ffynhonnell y cyllid: Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007 i 2013
  • Swm y cyllid: £960,979
  • Dyddiad cwblhau: 28/02/2011
  • Maes: Wrecsam
  • Echel: Echel 3
  • Mesuriad 312

Crynodeb o'r prosiect

Mae rhaglen Grantiau Busnesau Gwledig Wrecsam yn cynnig cymorth grant (o hyd at 50%) i’r busnesau neu grwpiau cymunedol hynny y mae ffynonellau cyllid eraill heb fod ar gael iddynt neu’n anodd cael mynediad atynt. Mae’r cynllun wedi’i anelu at fusnesau bach sy’n cyflogi llai na 20 o bobl a microfusnesau sy’n cyflogi llai na 5 o bobl: y gwahaniaeth rhyngddynt yw y byddai grantiau i ficrofusnesau’n mynd drwy broses llwybr carlam 7-10 diwrnod o hyd ar ôl cael cais ar ffurflen syml. Ymhlith y grwpiau cymwys y mae cwmnïau cyfyngedig o bob math, partneriaethau, unig fasnachwyr a mentrau cymdeithasol a chymunedol.

Bydd y broses penderfynu’n cael ei chynnal yn lleol drwy gyfarfodydd misol gan ddefnyddio’r ffurflen gais ynghyd â thystiolaeth ategol am angen. Bydd cynrychiolwyr gan gyrff sy’n bartneriaid yng nghyfarfodydd y panel.

Rhoddir cymorth grant yn y categorïau cyffredinol a ganlyn:

  • Grant cymorth marchnata – mae pob agwedd ar farchnata’n gymwys gan gynnwys datblygu gwefannau ac arwyddion newydd neu well – 50% o gymorth grant, uchafswm grant o £1,000
  • Amgylcheddol – prosiectau ynni cynaliadwy/adnewyddadwy, lleihau gwastraff ac ailgylchu, gwella’r dirwedd - 50% o gymorth grant, uchafswm grant o £5,000
  • TGCh – Gwella galluoedd ar y we, mesurau diogelwch newydd neu well, meddalwedd a chaledwedd arbenigol, systemau a seilwaith telathrebu, bydd yn ofynnol cael adroddiad gan ganolfan TGCh ar gyfer pob cais i ganfod a yw’n addas ar gyfer y prosiect - 50% o gymorth grant, uchafswm grant o £2,000
  • Gwariant Cyfalaf – Prynu cyfarpar newydd ac ail-law sy’n berthnasol i weithrediad y busnes. Byddai swm y grantiau’n cael ei bennu ar sail nifer y swyddi a greir a rhoddir £2,500 ar y mwyaf am bob swydd a greir

Cyswllt