Skip to content

Rhwydwaith Gwledig Cymru

Dolenni perthnasol

Cewch lawrlwytho dogfennau Rhwydwaith Gwledig Cymru yma, gan gynnwys diweddariad cynllun gwaith diwethaf.
Cynnydd diweddaraf cynllun gwaith y Rhwydwaith Gwledig Cymru, yn cynnwys rhanbarthau gwaith allweddol, gweithgareddau a chanlyniadau dymunol.
Gallwch ddefnyddio’r cyfeiriadur hwn i chwilio am brosiectau sy’n ymwneud â themâu neu leoliadau y mae gennych ddiddordeb ynddynt.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
Fferm cefn gwlad Gymraeg

Mae'r Rhwydwaith Gwledig Cymru yn amcanu i hyrwyddo cydweithrediad a rhannu ymarfer da rhwng cyfundrefnau gwledig yng Nghymru.

Mae Rhwydwaith Gwledig Cymru yn gyfrifol am hwyluso cyfnewid arbenigedd ymhlith pawb sy’n ymwneud â Chynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013.

Mae’r Rhwydwaith yn gwneud cyfraniad pwysig i’r Cynllun Datblygu Gwledig trwy ychwanegu at werth yr arian sydd ar gael.

Dyma rai o’r meysydd gwaith fydd yn cael sylw yn ystod cyfnod y Cynllun Datblygu:

  • Creu a chefnogi gweithgorau thematig sy’n canolbwyntio ar brif bynciau’r Cynllun Datblygu, gan weithio ar draws yr Echelau pan fydd hynny’n bosibl
  • Creu gwefan, cronfa ddata a phecyn chwilio i bartneriaid i’w helpu i gyfathrebu a chydweithredu o fewn y rhwydwaith gwledig
  • Hyfforddi, mentora, cefnogi a rhoi gwybodaeth i Grwpiau Gweithredu Lleol
  • Cefnogi gwaith o fewn Cymru a chyda gwledydd eraill
  • Helpu i sefydlu Rhwydwaith Gwledig y DU

Yn ogystal â threfnu digwyddiadau, cynadleddau ac ymweliadau, mae’r Rhwydwaith hefyd yn helpu i rannu gwybodaeth ymhlith partneriaid trwyr wefan hon, a thrwy gynhyrchu bwletinau a chyhoeddiadau.

Mae’r Rhwydwaith Gwledig yn un o bedwar rhwydwaith o’r fath yng ngwledydd Prydain. Ei nod yw helpu i ddarparu a gweithredu’r Cynllun Datblygu Gwledig ar draws pob un o’r pedair Echel.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Rwydwaith Gwledig Cymru neu os oes gennych wybodaeth yr hoffech ei rhannu ag eraill, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Ffôn: 0300 062 2164
E-bost: ruralnetwork@wales.gsi.gov.uk