Skip to content

Grwp Llywio’r Rhwydwaith

cefngwlad Cymru
Mae’r Grŵp Llywio yn cynnwys 15 o hwyluswyr gwledig sy’n goruchwylio’r gwaith o ddarparu’r Rhwydwaith.

Cafodd y grŵp hwn ei ffurfio ym mis Tachwedd 2008 i lywio gwaith y Rhwydwaith a chytuno ar ei gynlluniau gweithredu blynyddol. Mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal bob tri mis i drafod digwyddiadau, prosiectau cydweithredu a gweithgareddau mentora. Mae’r Grŵp hefyd yn gweithio gyda Rhwydwaith Gwledig Cenedlaethol y DU a Rhwydweithiau eraill ledled yr Undeb Ewropeaidd.