Skip to content

Gwasanaeth Cynghori Ffermwyr

Dolenni perthnasol

I gofrestru dros y ffôn, ffoniwch ein Canolfan Wasanaethau ar 08456 000 813.
Dyma'r safonau y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi'u gosod y bydd yn rhaid i ffermwyr eu bodloni i gael y Taliad Sengl (SFP).
Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ffermwyr (FAS) yn cynnig cyngor un-i-un cyfrinachol ar y fferm. Mae’n wasanaeth hyblyg a gallwn ei addasu i ateb gofynion penodol eich fferm chi.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.

Gwasanaeth sydd wedi’i ariannu’n rhannol a’i ddarparu ar y fferm yw hwn i’ch helpu i fodloni gofynion Trawsgydymffurfio.

Byddwch yn cael cyngor:

  • Un i un 
  • Cyfrinachol

Gall y Gwasanaeth Cynghori Ffermwyr eich helpu i baratoi ar gyfer eich archwiliad trawsgydymffurfio nesaf. Gall ein cynghorwyr ymweld â’ch fferm i’ch cynghori ar y canlynol:

  • Tagio a chofnodi anifeiliaid
  • Lles anifeiliaid
  • Gwarchod yr amgylchedd
  • Rheoli’r amgylchedd
  • Rheoli Tir
  • Cyfraith bwyd

Buddsoddwch mewn ymweliad cynghori rhag torri’r rheolau.

Dyma’r gofynion trawsgydymffurfio pwysig:

  • Gofynion Rheoli Statudol – Gofynion cyfreithiol Ewropeaidd penodol yw’r rhain, sy’n ymwneud â’r amgylchedd; iechyd pobl, anifeiliaid a phlanhigion; a lles anifeiliaid.
     
  • Cadw’r tir, priddoedd a chynefinoedd mewn Cyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol Da. Gofyn domestig yw hwn sydd wedi’i lunio i rwystro tir amaethyddol rhag mynd yn ddiffaith, a’r canlyniadau amgylcheddol a allai ddeillio o hynny.

Bydd cyfle i chi gael cyngor a hyfforddiant ar y fferm oddi wrth un o’n cynghorwyr ac yn ystod yr ymweliadau cynghori.  

Ymweliadau cynghori ffermwyr

Cewch ddewis o restr ein cynghorwyr Cyswllt Ffermio a threfnu iddynt ymweld i asesu perfformiad y fferm a phennu ffyrdd o wella’ch dulliau rheoli.

Gallai’r ymweliad eich helpu i ddatblygu cynllun clir to help you meet  trawsgydymffurfio neu gallech gael cyngor ar faterion penodol sy’n ymwneud â’r Gofynion Rheoli Statudol ac â chadw’ch tir mewn Cyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol Da, gan ddibynnu ar eich anghenion unigol.  

Gallwch hawlio’n ôl 80% o’r costau.

Rhaid i chi gofrestru â Chyswllt Ffermio cyn i chi allu manteisio ar y Gwasanaeth Cynghori Ffermwyr.  I gofrestru, ffoniwch y ganolfan wasanaethau ar 08456 000 813.

Cysylltwch a'ch Cydgysylltydd Rhanbarthol Cyswllt Ffermio i gael mwy o wybodaeth:

Canolbarth a De-ddwyrain Cymru

Gwenan Ellis:
Rhif ffôn: 07866 547894 
Ebost: gwenan.ellis@menterabusnes.co.uk

Ardal Ddaearyddol: Montgomeryshire

Deian Thomas:
Rhif ffôn: 07772 694952 
Ebost: deian.thomas@menterabusnes.co.uk

Ardal Ddaearyddol: South East and Valleys

Chris Davies:
Rhif ffôn: 07917 895255
Ebost: chris.davies@lantra.co.uk

Ardal Ddaearyddol: Brecknock and Radborshire

Gogledd Cymru

Elliw Evans:
Rhif ffôn: 07772 694116 
Ebost: elliw.evans@menterabusnes.co.uk

Ardal Ddaearyddol: Pen Llyn - Gwynedd

Guto Owen:
Rhif ffôn: 01248 672672 
Ebost: guto.owen@menterabusnes.co.uk

Ardal Ddaearyddol: Llyns Mon, Eryri & Meirionnydd

Lowri Williams:
Rhif ffôn: 07772 694098  
Ebost: lowri.williams@menterabusnes.co.uk

Ardal Ddaearyddol: Wrexham & Flint

Eryl Roberts:
Rhif ffôn: 07917 895253
Ebost: eryl.roberts@lantra.co.uk

Ardal Ddaearyddol: Denbighshire and Conwy

De-orllewin Cymru

Rhodri Jones:
Rhif ffôn: 01970 636286 
Ebost:  rhodri.jones@menterabusnes.co.uk

Ardal Ddaearyddol: North Ceredigion

Gareth Griffiths:
Rhif ffôn: 07772 694112 
Ebost: gareth.griffiths@menterabusnes.co.uk

Ardal Ddaearyddol: Carmarthenshire

Sarah Lewis:
Rhif ffôn: 07827 956765
Ebost: sarah.lewis@lantra.co.uk

Ardal Ddaearyddol: South Pembrokshire

Dylan Sandbrook:
Rhif ffôn: 07772 694958 
Ebost: dylan.sandbrook@menterabusnes.co.uk

Ardal Ddaearyddol: North Pembrokeshire/South Ceredigion

Pwy sy’n gymwys

Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ffermwyr ar gael i’ch busnes os oes gennych:

  • rhif Daliad (CPH)
  • rhif Cyfeirnod Cwsmer (CRN);
  • a’ch bod yn cael taliadau o dan Gynllun y Taliad Sengl, y Cynllun Ffermio Organig, Coetiroedd Gwell i Gymru, Tir Gofal, Tir Cynnal neu Dir Mynydd
     
    I’r busnes fod yn gymwys am statws Ffermwr Ifanc Newydd:
     
    • Mae o leiaf un partner yn y busnes o dan 40 oed ar ddiwrnod gwneud y cais;
    • Mae gan y busnes rif CPH a CRN
    • Rhaid bod y busnes yn derbyn taliadau o dan Gynllun y Taliad Sengl (SPS), y Cynllun Ffermio Organig (OFS), Coetiroedd Gwell i Gymru (BWW), Tir Gofal, Tir Cynnal neu Tir Mynydd

Mae pob busnes cymwys yn cael gwneud cais am gymhorthdal o 80% tuag at gost y Gwasaneth Cynghori Ffermwyr.