Skip to content

I gofrestru â Chyswllt Ffermio - 08456 000813

Dolenni perthnasol

Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.

Os ydych chi am fanteisio ar holl wasanaethau Cyswllt Ffermio, rhaid eich bod wedi’ch cofrestru ers mis Gorffennaf 2008.

Mae’n tîm yn Aberystwyth ar gael i ddelio ag ymholiadau dros y ffôn, ac ar lythyr neu e-bost gan fusnesau ffermio a choedwigo o bob rhan o Gymru.

Gallant:

  • eich cofrestru i sicrhau’ch bod yn gymwys i gael help;
     
  • gwrando ar eich anghenion i sicrhau’ch bod yn cael y gwasanaeth neu’r cyngor arbenigol gorau;
       
  • eich cyfeirio at ein Gwasanaeth Cynghori Ffermwyr, a fydd yn eich helpu gydag amrywiaeth o faterion trawsgydymffurfio sy’n effeithio ar eich hawl i’r Taliad Sengl.

Y broses gofrestru

  • Ffoniwch ein Canolfan Wasanaethau ar 08456 000 813 - bydd un o staff y Ganolfan yn asesu a ydych yn gymwys ai peidio, eich cofrestru dros y ffôn, a thrafod eich anghenion penodol
     
  • Fel arall, gallwch lenwi ffurflen gofrestru yn ystod unrhyw ddigwyddiad neu sioe y mae Cyswllt Ffermio’n bresenol ynddynt.
     
  • Ar ôl eich cofrestru, bydd y Ganolfan Wasanaethau yn gyrru llythyr a thaflenni gwybodaeth i chi, sydd yn nodi’r ystod o wasanaethau a gynigir sydd wedi eu hariannu naill ai’n rhannol neu yn llawn.
     
  • Ar ôl cofrestru, bydd un o staff Cyswllt Ffermio sydd yn eich swyddfa Llywodraeth Cymru rhanbarthol, naill ai yng Nghaernarfon, Llandrindod neu Gaerfyrddin, yn cysylltu gyda chi.
     
  • Mae timau Cyswllt Ffermio wedi’u lleoli yn y swyddfeydd rhanbarthol er mwyn sicrhau bod Cyswllt Ffermio, y Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm a gwasanaeth blaen swyddfa Is-adran Taliadau Gwledig Llywodraeth yn cydweithio’n agos. 

Rhaid eich bod wedi cofrestru â Chyswllt Ffermio cyn y cewch fanteisio ar ein holl wasanaethau. Ffoniwch ein Canolfan Wasanaethau ar 08456 000 813 i gofrestru.