Skip to content

Cynllun y Fferm Gyfan

Dolenni perthnasol

Cyfarwyddyd o Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar gyfer cyfrifyddu rheolaeth ffermwyr.
Mae’r Cynllun Fferm Gyfan yn cynnig cymorth un-i-un, gyda chymhorthdal, i’ch helpu i ehangu a datblygu’ch busnes ffermio neu goedwigaeth.
Y polisïau a’r gwaith y byddwn yn ei wneud i’n helpu i greu economi gynaliadwy, carbon isel ar gyfer Cymru.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.

Gwasanaeth sy’n cael ei ariannu’n rhannol yw cynllun y Fferm Gyfan. Mae’n cynnig cymorth un i un i’ch helpu i ddatblygu’ch busnes ffermio neu goedwigo.

Mae gennym restr o fentorwyr i roi cyngor technegol a chyngor ar gynllunio busnes. Mae’r gwasanaeth yn gyfrinachol ac yn delio ag amrywiaeth eang o bynciau.  

Cewch ddewis yn ôl eich anghenion. Dyma restr o bynciau:

  • Bwydo a bridio i wella perfformiad
  • Lleihau costau bwyd anifeiliaid trwy dyfu mwy o laswellt neu gnydau atodol
  • Defnyddio gwrtaith a dom fferm yn fwy effeithiol
  • Gwella iechyd anifeiliaid  
  • Cynllunio ariannol er mwyn amcangyfrif yr elw a’r llif ariannol
  • Gwarchod a gwella’r amgylchedd
  • Cynllunio ar gyfer olyniaeth
  • Arallgyfeirio ar ffermydd
  • Rheoli Coetiroedd
  • Arbed a chynhyrchu ynni
  • Y newid yn yr hinsawdd

Buddsoddwch mewn Cynllun Fferm Gyfan i redeg eich busnes yn fwy effeithlon

Trwy weithio gyda’ch mentor, byddwch yn creu cynllun busnes cynhwysfawr sy’n cynnwys argymhellion, ac amserlen ar gyfer eu gweithredu.  

Bydd ein Cydlynwyr Cynllun y Fferm Gyfan wrth law i’ch helpu trwy’r broses. Ariennir hyd at bum niwrnod o help at greu eich Gynllun Fferm Gyfan.  

Cewch dri diwrnod arall o help i arallgyfeirio. Gallai hynny gynnwys help i sefydlu menter newydd, fel siop fferm neu fwthyn gwyliau, fel rhan o’ch busnes ffermio neu goedwigo. Cewch help i greu cynllun marchnata a llunio amcangyfrifon ariannol manwl, a gallwn eich cynghori a’ch helpu i weithio o fewn y rheoliadau a’r ddeddfwriaeth.

Cysylltwch a'ch Cydgysylltydd Rhanbarthol Cyswllt Ffermio i gael mwy o wybodaeth:

Canolbarth a De-ddwyrain Cymru

Gwenan Ellis:
Rhif ffôn: 07866 547894 
Ebost: gwenan.ellis@menterabusnes.co.uk

Ardal Ddaearyddol: Montgomeryshire

Deian Thomas:
Rhif ffôn: 07772 694952 
Ebost: deian.thomas@menterabusnes.co.uk

Ardal Ddaearyddol: South East and Valleys

Chris Davies:
Rhif ffôn: 07917 895255
Ebost: chris.davies@lantra.co.uk

Ardal Ddaearyddol: Brecknock and Radborshire

Gogledd Cymru

Elliw Evans:
Rhif ffôn: 07772 694116 
Ebost: elliw.evans@menterabusnes.co.uk

Ardal Ddaearyddol: Pen Llyn - Gwynedd

Guto Owen:
Rhif ffôn: 01248 672672 
Ebost: guto.owen@menterabusnes.co.uk

Ardal Ddaearyddol: ynys Mon, Eryri & Meirionnydd

Lowri Williams:
Rhif ffôn: 07772 694098  
Ebost: lowri.williams@menterabusnes.co.uk

Ardal Ddaearyddol: Wrexham & Flint

Eryl Roberts:
Rhif ffôn: 07917 895253
Ebost: eryl.roberts@lantra.co.uk

Ardal Ddaearyddol: Denbighshire and Conwy

De-orllewin Cymru

Rhodri Jones:
Rhif ffôn: 01970 636286 
Ebost:  rhodri.jones@menterabusnes.co.uk

Ardal Ddaearyddol: North Ceredigion

Gareth Griffiths:
Rhif ffôn: 07772 694112 
Ebost: gareth.griffiths@menterabusnes.co.uk

Ardal Ddaearyddol: Carmarthenshire

Sarah Lewis:
Rhif ffôn: 07827 956765
Ebost: sarah.lewis@lantra.co.uk

Ardal Ddaearyddol: South Pembrokshire

Dylan Sandbrook:
Rhif ffôn: 07772 694958 
Ebost: dylan.sandbrook@menterabusnes.co.uk

Ardal Ddaearyddol: North Pembrokeshire/South Ceredigion

Pwy sy’n gymwys

Mae gwasanaeth Cynllun y Fferm Gyfan ar gael i bob busnes sydd wedi’i gofrestru â Chyswllt Ffermio ac sy’n bodloni’r meini prawf canlynol, sef bod ganddynt:

  • Rhif Daliad (CPH);
  • Rhif Cyfeirnod Cwsmer (CRN), a;
  • Eich bod yn gweithio mwy na 550 o oriau’r flwyddyn.  
  • Rhaid i fusnesau coedwigo allu darparu rhif Coetiroedd Gwell i Gymru dilys.  
      
    I’r busnes fod yn gymwys am statws Ffermwr Ifanc Newydd:
     
    • Mae o leiaf un partner yn y busnes o dan 40 oed ar ddiwrnod gwneud y cais;
    • Bydd y busnes yn bodloni’r rheol 550 awr y flwyddyn cyn pen tair blynedd;
    • Mae gan y busnes rif CPH a CRN 

Bydd mentrau ar y cyd / trefniadau ffermio contract yn cael eu hasesu’n unigol.

Mae pob busnes cymwys yn cael gwneud cais am gymhorthdal o 80% tuag at gost y Cynllun Fferm Gyfan.

Caiff busnesau â statws Ffermwr Ifanc Newydd hefyd wneud cais am 80%.

I gofrestru ar gyfer gwasanaeth Cynllun y Fferm Gyfan, cysylltwch â Chanolfan Wasanaethau Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813.

Meincnodi Ffermydd

Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) wedi datblygu system ar-lein i chi feincnodi perfformiad eich fferm yn erbyn perfformiad ffermydd tebyg, yn seiliedig ar ganlyniadau’r Farm Business Survey.  

Gallwch ddefnyddio’r system hon i gymharu’ch cyfrif elw a cholled, eich elw gros, eich mantolen, a mesurau perfformiad. I ddefnyddio’r system hon, ewch i: Farm Business Survey - benchmark (dolen allanol - Saesneg yn Unig).

Hefyd, i ddarllen canllawiau defnyddio’r system hon, cliciwch a'r dolen i'r dde o'r sgrin.