Skip to content

Sioeau bwyd i ddefnyddwyr

Dolenni perthnasol

Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
Dynes yn gwerthu hufen ia mewn sioe
Gallwch ddysgu mwy am fwyd a diod o Gymru yn y sioeau i ddefnyddwyr lle y bydd cynhyrchwyr o Gymru yn bresennol.

Mae Is-adran Datblygu Bwyd, Pysgodfeydd a'r Farchnad Llywodraeth Cymru yn helpu cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru i fynychu sioeau ac arddangos eu cynnyrch. Mae stondin 'Cymru Y Gwir Flas' yn y sioeau hyn yn rhoi cyfle da i ymwelwyr ddysgu mwy am o ble y daw eu bwyd ac am y tyfwyr a'r cynhyrchwyr sy'n gyfrifol am y cynnyrch. Yn aml, gallwch hefyd brofi'r bwyd neu'r ddiod cyn i chi eu prynu.

Caiff bwyd a diod o Gymru eu harddangos mewn digwyddiadau megis:

BBC Good Food Show (dolen allanol)

Sioe Frenhinol Cymru (dolen allanol)

Ffair Aeaf Frenhinol Cymru (dolen allanol)

The Farmshop and Deli Show (dolen allanol) 

Northern Restaurant and Bar Show (dolen allanol)

International Food and Drink Event (dolen allanol)

Real Food Festival (dolen allanol)

Taste of London (dolen allanol)

Speciality and Fine Food Fair (dolen allanol)

Gallwch hefyd ddod o hyd i gynnyrch o Gymru mewn amryw o siopau fferm, marchnadoedd ffermwyr a gwyliau bwyd ledled Cymru. I ddarllen mwy am y rhain, defnyddiwch y ddolen yn y ar y dde o'r sgrin.