Skip to content

Cynnyrch Gwir Flas

Dolenni perthnasol

Cyfeiriadur Bwyd a Diod gan Bobl Cymru yw rhestr Llywodraeth Cymru o gynhyrchwyr bwyd a diod.
Mae creu brand bwyd Cymreig credadwy yn y sector manwerthu wedi'n galluogi ni i hyrwyddo ein cynnyrch nid yn unig yng Nghymru ond hefyd y tu hwnt i'n ffiniau ac yng ngweddill y DU a thramor.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
Enillydd Gwir Flas - hufen iâ Plas Farm

Mae Gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas yn gystadleuaeth flynyddol i ddod o hyd i’r cynnyrch gorau posibl o Gymru.

Os ydych chi’n siopa am fwyd a diod o Gymru, edrychwch am logo’r Gwir Flas. Mae’n arwydd bod y cynnyrch wedi ennill un o wobrau’r Gwir Flas.

Cystadleuaeth flynyddol yw Gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas sy’n denu dros 1,000 o ymgeision. Caiff pob un ohonynt eu gwerthuso’n drylwyr gan wahanol feirniaid gan gynnwys cogyddion, ysgrifenwyr am fwyd, newyddiadurwyr a chynrychiolwyr o’r diwydiant - felly gallwch fod yn hollol siŵr bod pob enillydd o’r safon uchaf bosibl.

O 2010 ymlaen, defnyddir y logos canlynol ar y cynnyrch sy’n ennill Gwobrau aur, arian ac efydd: 

Logo Aur Wobr Gwir Flas

Logo Arian Wobr Gwir Flas

Logo Efydd Wobr Gwir Flas

 

 

 

 

Defnyddir y logo canlynol gan y cwmnïau hynny sydd wedi ennill Gwobrau cyn 2010:

Logo Cennin Pedr Wobr Gwir Flas

 

 

 

 

Mae categorïau’r gystadleuaeth yn cynnwys pob math o fwyd a diod, o bysgod i ffrwythau, o fwyd môr i seidr ac o win i ddŵr. Yn ogystal mae categorïau ar gyfer bwyta allan, manwerthwyr, cynnyrch organig, bwyd iach a chynaliadwyedd. Felly mae gan nifer fawr o gwmnïau ac unigolion gyfle i gael y parch a’r bri a ddaw drwy ennill gwobrau’r Gwir Flas.

Caiff enillwyr gwobrau’r Gwir Flas eu cynnwys yng Nghyfeiriadur Bwyd a Diod gan Bobl Cymru, a hynny yn ôl eu logos. Mae dolen i’r Cyfeiriadur yn y ddewislen ar ochr dde’r dudalen hon.

Gallwch ddysgu mwy am enillwyr gwobrau eleni a darllen eu storïau yng nghylchgrawn y Gwir Flas (dolen allanol). Gallwch hyd yn oed rhoi cynnig ar y ryseitiau sy’n ymddangos yn y cylchgrawn a defnyddio cynnyrch sydd wedi ennill gwobrau.  

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Cymru y Gwir Flas (dolen allanol).

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at RA-MDU@cymru.gsi.gov.uk.