Skip to content

Cynllun Gweithredu Tyfu Bwyd yn y Gymuned

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Prif nod y prosiect yw hybu, cefnogi a hyrwyddo tyfu bwyd yn y gymuned yng Nghymru.

Cydnabyddir bod pobl sy’n dymuno dechrau prosiectau tyfu bwyd yn y gymuned yn wynebu llawer o anawsterau. Nod y cynllun gweithredu hwn yw helpu i’w goresgyn. Mae’r anawsterau’n cynnwys rhestrau aros hir am randiroedd awdurdodau lleol a phroblemau sy’n gysylltiedig â dod o hyd i dir ar gyfer prosiectau tyfu newydd. Mae diffyg ffrwd ariannu benodol briodol yng Nghymru hefyd yn broblem.

Nod strategaeth gyffredinol ar dyfu bwyd yn y gymuned fydd tynnu’r elfennau gwahanol hyn at ei gilydd mewn cynllun gweithredu cyffredin ac osgoi dyblygu neu ddryswch.