Skip to content

Adroddiad Gwerthuso Gwyliau Bwyd 2011

Dolenni perthnasol

Ar y dudalen hon, gallwch weld pwy wyliau fwyd sy'n cael eu cefnogi ganddom, a sut gallwch geisio am gefnogaeth am eich digwyddiad bwyd a diod.
Rhestr o’r gwyliau bwyd gan gynnwys lleoliad a fanylion cysylltu.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Gŵyl Bwyd Aeaf Gelli Gandryll
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi manylion prosiect ymchwil eang i werthuso gwyliau bwyd yng Nghymru sy’n derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru.

Comisiynwyd cwmni cyfyngedig Miller Research (UK), ar y cyd ag Ymgynghoriaeth Bwyd Howel a chwmni cyfyngedig Reap and Sow, gan Lywodraeth Cymru i werthuso'r gwyliau bwyd sy'n derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru dros ddwy flynedd.

Yn benodol, canolbwyntiwyd ar werthuso effaith y Cynllun Grant Gwyliau Bwyd, cronfa a gafodd gymorth yn ystod y cyfnod dan y Cynllun Arbedion yn y Gadwyn Gyflenwi, a'r ffordd y mae'n cael ei weithredu. Mae'r ail gynllun ei hun yn brosiect dan Echel 1 Cynllun Datblygu Gwledig Cymru.

Roedd y gwerthusiad yn golygu gwneud gwaith maes ledled Cymru gan ymweld â 49 o wyliau a ariennir i gynnal arolwg, a chan gynnal arolwg ar-lein o’r cynhyrchwyr bwyd ar gronfa ddata Llywodraeth Cymru a chyfweliadau â chyrff rheoli gwyliau pob digwyddiad.

Roedd y prosiect yn galw am werthusiad ar nifer o lefelau gwahanol, gan gynnwys y cyfraniad y mae'r rhaglen wedi'i wneud o ran:

  • datblygu gwell cadwyni cyflenwi;
  • i ba raddau y mae’r rhaglen yn codi proffil bwyd lleol;  
  • datblygu cynaliadwy.

Dyma rai o brif gasgliadau'r adroddiad:

  • Rydym yn amcangyfrif bod tua 350,000 o bobl wedi mynd i wyliau bwyd yn ystod y flwyddyn, sy'n golygu rhyw 700,000 yn ystod cyfnod y grant.
  • Gwerthwyd gwerth £23.5 miliwn o nwyddau. Rydym yn hyderus bod pob unigolyn yn gwario tua £20 yr un ar gyfartaledd mewn gwyliau. Byddai hyn yn gyfartal â rhyw £7 miliwn o wariant uniongyrchol, ac amcangyfrif gwariant ychwanegol mewn cymunedau lle y cynhelir gwyliau bwyd o hyd at £42 miliwn yn ystod dwy flynedd.
  • Felly, mae hynny'n awgrymu gwerthiannau ychwanegol sy'n ymwneud yn uniongyrchol â gwyliau o tua £50 miliwn bron ystod dwy flynedd.
  • Yn 2010-2011, aeth tua 500 o gynhyrchwyr i wyliau sy'n cael cymorth drwy'r grant.
  • Dywedodd cynhyrchwyr a aeth i wyliau bwyd mai oherwydd y gwyliau hynny  y gwelwyd 32% o'u gwerthiant blynyddol ar gyfartaledd.
  • Mae amcangyfrifon yn dangos bod tua 2,420 o swyddi ychwanegol wedi'u creu gan gynhyrchwyr a aeth i wyliau yn 2010-11.

I ddarllen yr adroddiad llawn, gallwch lawrlwytho'r ddogfen isod. Yn Saesneg yn unig y mae'r adroddiad llawn ar gael.