Skip to content

Cyrchu Lleol

Dolenni perthnasol

Mae cyrchu bwyd a diod yn lleol yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Hoffem ei gwneud hi’n haws i  ddefnyddwyr brynu bwyd a diod sy’n cael eu cynhyrchu yn lleol iddynt.
Nod strategaeth fwyd Llywodraeth Cymru yw sicrhau y bydd yr hyn sydd gan Gymru i’w chynnig o ran bwyd a diod yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i hunaniaeth ddiwylliannol Cymru.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
Phil Bevan, Tŷ Mawr Organic Vegetables, yn gwerthu yn Riverside Market yng Nghaerdydd - marchnad sy wedi ennill gwobr Gwir Flas
Rydym yn gweithio i gynyddu faint o fwyd a diod lleol sy’n cael ei brynu gan gwsmeriaid a’r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae cyrchu bwyd a diod yn lleol yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae manteision amlwg i gynyddu faint o fwyd a diod lleol sy’n cael ei brynu yng Nghymru, er enghraifft:

  • bod yr arian yn cael ei ail-fuddsoddi yn ein cymunedau 
  • lleihau ‘milltiroedd bwyd’ – y pellter y mae’n rhaid cludo ein bwyd 
  • lleihau allyriadau carbon  

Erbyn hyn, mae llawer o bobl am wybod o ble y daw eu bwyd ac am gael sicrwydd ynghylch y dulliau cynhyrchu, lles anifeiliaid, ac effaith y systemau dosbarthu bwyd. Yng Nghymru, mae gennym ystod helaeth o gynhyrchion lleol o ansawdd uchel, ac mae Llywodraeth Cymru am helpu cynhyrchwyr bwyd a diod i fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil y tueddiadau newydd hyn.

Mae’r galw cynyddol am fwyd a diod lleol a rhanbarthol yn her gyffrous i gynhyrchwyr o bob maint. Mae’r Cynllun Gweithredu Cyrchu Lleol yn nodi sut byddwn ni’n ateb yr her ac yn dod â mwy o fusnes i gwmnïau bwyd a diod Cymru.

Cliciwch ar y ddolen yn y ddewislen ar y dde er mwyn darllen y Cynllun Gweithredu Cyrchu Lleol.

Nod y cynllun yw helpu cwmnïau bwyd a diod Cymru i gael mynediad i farchnadoedd lleol a’i gwneud yn haws i gwsmeriaid brynu bwyd a diod sydd wedi’i gynhyrchu yng Nghymru. Dylai hyn helpu i wella busnes, diogelu swyddi a chreu swyddi ychwanegol, ac annog pobl i fwyta’n iach. Dylai hefyd helpu Cymru i gynnal safonau uchel o ran diogelwch bwyd, datblygu diwylliannau bwyd lleol, a lleihau “milltiroedd bwyd”.  

Mae llawer o waith wedi’i wneud mewn perthynas â chyflawni’r camau a nodir yn y cynllun.  Mae rhai o’r uchafbwyntiau’n cynnwys:

  • Mae’r gyfran o bobl Cymru sy’n prynu bwyd o Gymru wedi cynyddu i 85% - y lefel uchaf erioed. 
  • Mae’r cynnyrch o Gymru sy’n cael ei brynu gan gyrff sector cyhoeddus Cymru wedi cynyddu 65% er 2003.
  • Mae archfarchnadoedd yn ymateb i alw cwsmeriaid trwy werthu mwy a mwy o fwydydd lleol.
  • Mae menter ar y gweill, gyda chefnogaeth Cynllun Effeithlonrwydd y Gadwyn Gyflenwi, i gefnogi gwerthu uniongyrchol. Nod menter “Fforch i Fforc” yw codi ymwybyddiaeth cwsmeriaid o siopau fferm, marchnadoedd ffermwyr, cynlluniau blychau bwyd, a gwerthu dros y rhyngrwyd.
  • O blith y bobl hynny yng Nghymru sy’n prynu bwyd o Gymru, mae arolwg wedi dangos bod 18% ohonynt yn ei brynu mewn marchnadoedd ffermwyr, siop fferm neu ŵyl fwyd (o’i gymharu â 7% yn unig yng ngweddill y Deyrnas Unedig). 
  • Mae cynllun ar y gweill i gynyddu o ddau i ddeg nifer y cynhyrchion a ddynodir fel Enwau Bwydydd wedi’u Hamddiffyn, a hynny erbyn 2012.