Skip to content

Cymorth i Gwmnïau Bwyd a Diod o Gymru

Dolenni perthnasol

Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd
Daflen ffeithiau ar allforio o'r sector bwyd a diod
Cyngor sgiliau am ddim i'ch Fusnesau/Sefydliadau
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
Cymru Y Gwir Flas - baneri

Mae ein tim yn gallu cynnig cymorth ac esbonio'r cymorth a allai fod ar gael.

Sut y gallwn ni helpu eich cwmni

Gall y timau rhanbarthol yn yr is-adran Datblygu Bwyd a'r Farchnad drafod eich gofynion unigol er mwyn eich helpu i ddatblygu ac ehangu eich busnes.  

Pwy sy'n gymwys i gael cymorth

  • Rhaid bod y prosiectau wedi'u lleoli yng Nghymru.
  • Rhaid i brosiectau fod yn fanteisiol i gwmnïau neu ffermwyr sy'n ychwanegu gwerth i'r diwydiant bwyd a diod.
  • Nid yw busnesau manwerthu yn gymwys.
  • Rhaid i'r prosiect a'r busnes presennol (os yw'n gymwys) ddangos angen am gefnogaeth.
  • Nid oes cymorth ar gael o dan y cynlluniau hyn ar gyfer cwmnïau sydd mewn trafferthion ariannol.

Gall cymorth ymddangos ar sawl ffurf wahanol, o grantiau (os ydynt ar gael ac yn gymwys) i ddatblygu cynnyrch newydd a chymorth technegol. Mae ymchwil y farchnad hefyd ar gael ar gyfer y cwmnïau hynny sy'n dymuno asesu'r farchnad cyn gwneud penderfyniadau strategol neu gynlluniau datblygu.

Ceir mwy wybodaeth am ein grantiau a ddulliau cymorth, trwy'r ddolen yn y ddewislen ar ochr dde'r dudalen.

Gellir cefnogi cynlluniau buddsoddi pellach drwy nifer o adrannau ehangach Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, gall y rhain gynnwys cynlluniau datblygu'r gweithlu sy'n cynnwys hyfforddiant (gweler y ddolen yn y ddewislen ar ochr dde'r dudalen), neu gyngor ar ddatblygu polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Os yw'r farchnad allforio yn gynnig deniadol ar gyfer eich busnes yna gallwch gysylltu â ni am gymorth o fewn y marchnadoedd hyn hefyd. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'r daflen ffeithiau ar Allforio o'r Sector Bwyd a Diod.

Sut i gysylltu â ni

I gael cymorth, cysylltwch â Huned Gwybodaeth Busnes:

Ffôn: 03000 6 03000

Ebost: businessinformationhelpline@wales.gsi.gov.uk