Skip to content

Canolfannau Bwyd

Dolenni perthnasol

Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
Ffatri bwyd

Mae'r Canolfannau Bwyd yng Nghymru yn rhoi cyngor a gwasanaethau technegol i'r diwydiant bwyd yng Nghymru.

Cyfleusterau cynghori ac ymgynghori yw'r canolfannau bwyd sy'n cynnig gwasanaethau technegol i fusnesau newydd, cwmnïau maint bach a chanolig a gwneuthurwyr bwyd presennol. Maent yn chwarae rolau strategol o ran rhoi cefnogaeth dechnegol i'r diwydiant bwyd yng Nghymru, gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Mae'r Canolfannau yn cynnwys:

Canolfan Diwydiant Bwyd Zero2Five ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd (dolen allanol)

Canolfan Bwyd Cymru yn Horeb, Ceredigion (dolen allanol)

Y Ganolfan Technoleg Bwyd yng Ngholeg Menai (dolen allanol)

Mae pob un o'r canolfannau hyn wedi'u neilltuo i annog datblygiad y sector bwyd-amaeth. Eu nod yw darparu cymorth technegol ac ymarferol ar bob agwedd ar gynhyrchu bwyd, gan gynnwys:

  • datblygu cynnyrch newydd
  • deddfwriaeth
  • cynllun y ffatri a’r gweithle
  • sicrhau ansawdd
  • systemau a gweithdrefnau newydd
  • hylendid
  • diogelwch bwyd
  • marchnata.

Mae'r tair canolfan hefyd yn ymateb i ymholiadau technegol gan gwmnïau bwyd. O ganlyniad i'r gwasanaeth hwn mae cwmnïau yn elwa ar gyngor a chymorth ar nifer o faterion technegol a systemau ansawdd (gwasanaeth am ddim ac fel arfer am gyfnod o hyd at 2 ddiwrnod).

Bydd y canolfannau bwyd yn:

  • mynd ati i gydweithio'n agos gyda'r Timau Rhanbarthol yn Llywodraeth Cymru i hwyluso gweithio cydgysylltiedig;
  • ysgogi arloesi a chefnogi'r gwaith o ddatblygu cynnyrch newydd sy'n fanteisiol i gwmnïau bwyd a diod; 
  • hysbysu’r Timau Rhanbarthol rheolaidd ynghylch hynt eu gweithgareddau;
  • cydweithio i ddiwallu anghenion y cwmnïau bwyd a diod;
  • mynd i'r afael â gweithgareddau ar ran ei gilydd lle bo hynny'n briodol;
  • rhannu gwybodaeth wyddonol a thechnegol ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall gan gynnwys ystadegau ac ymchwil; a
  • mynd ati i gyfrannu at y gwaith o sicrhau nodau strategol Llywodraeth Cymru tuag at ddatblygu'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.