Skip to content

Plant!

Dolenni perthnasol

Y newid yn yr hinsawdd yw'r ffordd y mae hinsawdd y byd yn newid o ganlyniad i lefel y nwyon yn yr atmosffer. Mae'r tudalennau hyn yn sôn am y pethau yr ydym yn eu gwneud.
Ein nod yw rhoi’r cychwyn gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.

Mae Plant! yn brosiect i nodi genedigaeth neu achlysur mabwysiadu pob plentyn yng Nghymru drwy blannu coed.

Plant yn chwarae mewn coedtirYn 2008, gwnaeth Llywodraeth Cymru adduned i blannu coeden i nodi genedigaeth neu achlysur mabwysiadu pob plentyn yng Nghymru. Ac ar 1 Ebrill 2014 estynwyd yr ymrwymiad hwnnw i blannu coeden ychwanegol yn Uganda ar gyfer pob plentyn.

Ar achlysur geni neu fabwysiadu pob plentyn, bydd coeden frodorol gymreig yn cael ei phlannu gan Cyfoeth Naturiol Cymru mewn coetir newydd sbon yng Nghymru ac ail goeden yn cael ei phlannu yn Uganda drwy bartneriaeth â'r elusen amgylcheddol 'Size of Wales'.

Bydd plannu coed yn Uganda yn hanfodol yn y frwydr i daclo'r newid yn yr hinsawdd ac yn gwella ein hamgylchedd hefyd. Gyda'r coed hyn rydym yn gobeithio y bydd plant ledled Cymru'n teimlo cysylltiad personol â'r amgylchedd sydd o'u cwmpas.

Cynllun gan Lywodraeth Cymru yw Plant! Mae'n cael ei redeg ar ein rhan gan:

I gael rhagor o wybodaeth am y coed a blennir yn Uganda, ewch i wefan Maint Cymru.

Manylion cyswllt cynllun Plant!:

Hefyd, mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau neu awgrymiadau ar gyfer y prosiect.